Cegin S4C

Cegin S4C

Swper Selsig

Cynhwysion

  • 4 ŵy
  • 120g + 2 lwy fwrdd blawd plaen
  • 300ml llaeth
  • 8 selsigen borc
  • 4 sbrigyn rhosmari
  • 3 llwy fwrdd olew olewydd
  • 15g menyn
  • 3 winwnsyn coch
  • 3 llwy fwrdd finegr balsamig
  • 400ml stoc cig eidion

Dull

  1. Hidlwch y 120g o flawd i bowlen a sesnwch â halen a phupur. Curwch yr wyau mewn powlen ar wahân, yna gwnewch bant yng nghanol y blawd ac arllwyswch yr wyau iddo. Chwisgiwch y blawd i mewn i’r wyau yn raddol nes bod popeth wedi cymysgu’n drylwyr, yna arllwyswch y llaeth i mewn a chymysgwch yn dda. Gadewch i’r cytew orffwys am o leiaf awr.
  2. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 210°C / 200°C ffan / marc nwy 7.
  3. Arllwyswch 2 lwy fwrdd o’r olew i dun rhostio a’i gynhesu yn y popty am 5 munud.
  4. Pliciwch un winwnsyn a’i dorri’n 6 darn siâp lletem. Ychwanegwch y winwnsyn a’r selsig at y tun a’u coginio am 20 munud, gan droi’r selsig hanner ffordd drwy’r amser coginio.
  5. Tynnwch y tun rhostio o’r popty, yna arllwyswch y cytew dros y selsig a’r winwnsyn a gwasgarwch y sbrigiau rhosmari drostynt. Rhowch y tun yn ôl yn y popty ar unwaith a choginiwch am 30 munud, nes bod y cytew wedi brownio a chodi.
  6. I wneud y grefi, pliciwch y winwns sy’n weddill a’u sleisio’n denau. Coginiwch nhw mewn llwy fwrdd o olew a’r menyn nes eu bod yn feddal ac yn dechrau 

Rysait Nerys Howell

Instagram - nerys_howell