Cegin S4C

Cegin S4C

Syrlwyn rhost Cig Eidion Cymru

Cynhwysion

  • 1.5kg darn syrlwyn Cig Eidion
  • 1 llwy fwrdd olew
  • llond llaw teim a rhosmari
  • 2 ewin garlleg
  • halen a pupur
  • 1 winwnsyn coch
  • 2 moron
  • 1 bylb garlleg

     

  • I’r Sglein:
  • 1 gwydraid gwin coch
  • Joch o finegr gwin coch
  • 1 llwy fwrdd siwgr brown
  • 1 llwy de past brag/burum (malt)
  • 1 llwy fwrdd saws llugaeron
  • llond llaw llugaeron
  • ½ llwy de pupur du
  • winwns crensiog

Dull

  1. Tynnwch y cig eidion o'r oergell awr cyn ei goginio a gadewch iddo gyrraedd tymheredd yr ystafell.
  2. Cynheswch y popty i 220˚C / 200˚C ffan / Nwy 7.
  3. Mewn powlen fach, cymysgwch yr olew, y perlysiau wedi'u torri, y garlleg a'r sesnin gyda'i gilydd.
  4. Rhowch y winwnsyn a'r moron ar waelod tun rhostio i greu trybedd. Gosodwch y cig eidion ar ei ben a thaenwch y cymysgedd perlysiau dros y cig eidion. Ychwanegwch y sbrigyn o berlysiau a’r bylb garlleg.
  5. Rhowch y cyfan yn y popty am 20 munud.
  6. Gostyngwch dymheredd y popty i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 4 a chyfrifwch yr amser coginio sy'n weddill (10-15 munud fesul 450g ar gyfer canolig-gwaedlyd, 15-20 munud fesul 450g ar gyfer canolig, a 20-25 munud fesul 450g ar gyfer cig wedi’i goginio’n dda).
  7. Gwnewch y sglein trwy roi'r holl gynhwysion mewn padell fach a dod ag ef i'r berw, ei dewychu a'i fudferwi nes ei fod yn wead syrypaidd.
  8. Pan fydd 15 munud o amser coginio ar ôl, arllwyswch y rhan fwyaf o'r sglein dros y cig eidion a'i ddychwelyd i'r popty.
  9. Gwiriwch i weld a yw'r cig eidion wedi'i goginio at eich dant, tynnwch allan, brwsiwch y cig â'r sglein sy'n weddill a gwasgarwch y winwnsyn crensiog ar ei ben. Gadewch i orffwys cyn ei dorri.

Rysaít gan Elwen Roberts (Hybu Cig Cymru) - Prynhawn Da.

Instagram: Hybu Cig Cymru

Twitter: Hybu Cig Cymru