Cegin S4C

Cegin S4C

Tacos Cyw Iar a Salsa Pinafal

Cynhwysion

  • Cig Cyw Iar wedi ei goginio.
  • 1 llwy fwrdd o bowdr blas Jerk
  • 1 llwy fwrdd o saws tsili melys mwyn neu fel clir.

I’r salsa

  • 200g pinafal fresh, wedi ei dorri’n ddarnau bach
  • 1 nionyn coch bach wedi ei dorri’n fach
  • 1 tin bach o gorn melys
  • Llond llaw o fintys, wedi ei dorri
  • 1 tsili gwyrdd, wedi ei dorri
  • 1 llwy fwrdd o fel clir
  • 1 leim, sudd a’r croen.

I’r bresych coch wedi ei biclo

  • ¼ bresych coch
  • 75 ml o finegr seifr afal
  • ½ llwy de o halen
  • ½ llwy de o bupur du
  • 1 llwy fwrdd siwgr

I weini

  • Pecyn o tortillas bach blawd neu tacos crensiog
  • Letys crensiog wedi ei dorri
  • Potyn bach o hufen wedi’i suro.

Dull

  1. Rhowch yr finegr, siwgr, pupur a halen mewn powlen a’i gymydgu, yna ychwanegwch yr bresych coch, ei droi a’i roi yn yr oergell am o leiaf 30 munud cyn ei ddefnyddio
  2. (Gallwch ei selio mewn jar ai gadw yn yr oergell am 2 wythnos).
  3. Cymysgwch holl gynhwysion i’r salsa.
  4. Torrwch yr cig cyw iar yn ddarnau bach ac yna ychwanegwch yr powdr jerk a’r saws tsili melys, ei droi’n dda.
  5. Llenwch yr tacos gyda letys, hufen wedi’i suro, bresych coch, yr cyw air a’r salsa!

Rysait gan Elwen Roberts ar gyfer Prynhawn Da.
Instagram - elwen.roberts