Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a ffriwch yr cig oen nes yn frown, yna ei drosglwyddo i ddysgl gaserol.
Ffriwch y winwnsyn am 2 funud, yna ychwanegwch yr holl sbeisys a’i droi’n dda, ychwanegwch yr tomatos, ffacbys, datys, bricyll, stoc, suddion a’r croen a’r mêl.
Trosglwyddwch y holl gymysgfa i’r ddysgl caserol.
Gorchuddiwch y cyfan a’i goginio am ryw awr a hanner, tan fod y cig yn frau.
Tynnwch y caead ac ychwanegu’r couscous a’r syltana. Rhowch yn ôl yn y ffwrn am ryw 25 munud tan bod yr hylif wedi cael ei amsugno. Efallai y bydd angen ychwanegu ychydig mwy o stoc os yw braidd yn sych.
Cyn ei weini, cymysgwch y mintys i mewn ac addurnwch y cyfan gyda’r hadau pomgranad a’r cnau.