Cegin S4C

Cegin S4C

Tarta de Santiago

Cynhwysion

  • 250g almonau mâl
  • 6 ŵy mawr
  • 200g siwgr mân
  • Naddion croen 2 lemwn (heb eu cwyro)
  • Naddion croen 1 oren
  • 1 llwy de rhinflas almon

Dull

  1. Irwch dun cacen sbring crwn 28cm ac ychwanegwch tua 3 llwy fwrdd o flawd plaen. Ysgwydwch y tun fel bod y blawd yn glynu wrth y menyn ar yr ochrau ac ar y gwaelod. Taflwch unrhyw flawd dros ben.
  2. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 190°C/Nwy 5.
  3. Chwisgiwch y melynwy gyda’r siwgr mewn powlen fawr nes bod y cymysgedd yn welw ac yn hufennog.
  4. Ychwanegwch groen y ffrwythau sitrws, y rhinflas almon a phinsiad o halen, yna rhowch yr almonau mâl i mewn gan ddefnyddio llwy fetel fawr.
  5. Mewn powlen gymysgu lân, curwch y gwynnwy nes ei fod yn stiff. Rhowch draean o’r gwynnwy i mewn i’r cymysgedd, yna rhowch y gweddill i mewn yn ofalus.
  6. Arllwyswch y cymysgedd i’r tun parod a’i phobi am 30–35 munud, nes bod y canol yn gadarn wrth ei gyffwrdd a’r gacen yn dechrau dod oddi wrth ochrau’r tun. Gadewch i’r gacen oeri ychydig cyn ei thynnu o’r tun a’i rhoi ar rac i oeri.
  7. Yn draddodiadol, caiff y gacen ei haddurno â siwgr eisin ar ffurf croes Santiago, neu groes Sant Iago. Fel arall, gallwch ysgeintio siwgr eisin drosti. Gweinwch gyda chompot ffrwythau a hufen wedi’i chwipio.

Rysait Nerys Howell.

Instagram - nerys_howell