Cegin S4C

Cegin S4C

Tarten Afal, Cheddar a Winwns wedi’u Carameleiddio

Cynhwysion

  • 1 ddalen crwst parod
  • 2 winwnsyn coch
  • 1 afal
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • Talp bach menyn
  • 1 llwy fwrdd finegr balsamig
  • 100g caws Cheddar
  • Teim ffres
  • 1 ŵy
  • Halen a phupur du

Crème fraîche mwstard

  • 2 lwy fwrdd crème fraîche
  • 1 llwy de mwstard
  • Pupur du
  • Teim ffres

Dull

  1. Cynheswch y popty i 200°C ffan. Cynheswch yr olew a’r menyn mewn padell. Coginiwch y winwns yn ysgafn am 15–20 munud nes eu bod yn feddal ac wedi carameleiddio. Ychwanegwch y finegr balsamig, y teim, yr halen a’r pupur a’u cymysgu.
  2. Cymysgwch y crème fraîche, y mwstard, y pupur du a’r teim gyda’i gilydd.
  3. Rhowch y crwst ar hambwrdd pobi wedi’i leinio â phapur pobi. Marciwch ffin 2cm o amgylch yr ymyl â chyllell, heb dorri drwy’r crwst.
  4. Taenwch haen denau o’r crème fraîche mwstard dros y crwst o fewn y ffin. Rhowch y winwns wedi’u carameleiddio, y tafelli afal a’r Cheddar wedi’i gratio ar ei ben.
  5. Brwsiwch ymyl y crwst â’r ŵy wedi’i guro. Pobwch am 20–25 munud nes bod y crwst yn euraidd ac yn grimp, a’r caws yn byrlymu. Ysgeintiwch deim ffres ac ychydig o bupur du wedi’i falu’n fras drosto cyn gweini.

Rysait gan Michelle Evans-Fecci

Instagram - bakesbymichelle