Cynheswch y popty i 180°C (ffan). Dad roliwch y crwst ar hambwrdd pobi wedi’i leinio a marciwch ffin 2cm o amgylch yr ymyl (peidiwch â thorri drwodd yn llwyr) a thyllwch y canol gyda fforc.
Coginiwch y cennin a’r shibwns yn ysgafn mewn olew am 6–8 munud nes eu bod wedi meddalu. Sesnwch yn dda, cymysgwch y mwstard a’r teim i mewn, yna gadewch iddo oeri ychydig.
I’w gydosod, taenwch y caws meddal o fewn ffin y crwst. Rhowch y cymysgedd cennin ar ei ben a thaenwch y caws Caerffili a’r cnau pinwydd drosodd.
Brwsiwch yr ymylon gyda’r ŵy wedi’i guro a phobwch am 20–25 munud nes ei fod yn euraidd, wedi chwyddo ac yn grimp oddi tano. Gadewch iddo oeri ychydig cyn ei dorri a’i weini gyda salad ochr.