Cegin S4C

Cegin S4C

Tarten Ratatŵi Haf

Cynhwysion

  • Wylys a Gorbwmpen
  • Pupurau
  • Tomatos
  • Pwmpen gnau menyn  

Ar gyfer y saws tomato:

  • 1 winwnsyn
  • 2 ewin garlleg
  • 1 tun tomatos
  • ½ llwy de pupur cayenne (dewisol)
  • 4 llwy de halen
  • 4 llwy de siwgr
  • Basil ffres
  • Halen a phupur
  • Olew olewydd
  • 1 gweiniad saws béchamel

Dull

  1. Piliwch y winwns, tynnwch hadau’r pupur, a thorri pennau’r wylys a’r gorbwmpen. Yna sleisiwch y llysiau i gyd mor denau â phosibl.

Ar gyfer y saws tomato

  1. Rhowch y winwnsyn mewn sosban fawr gydag ychydig o olew llysiau a’i ffrio’n ysgafn.
  2. Ychwanegwch yr arlleg a’i goginio am ychydig funudau cyn ychwanegu’r tun o domatos wedi’u torri.
  3. Ychwanegwch ½ llwy de o halen, ½ llwy de o siwgr a’r pupur cayenne, yna gorchuddiwch y sosban a’i goginio’n araf am 10 munud.

I baratoi’r ddysgl

  1. Arllwyswch y saws tomato i ddysgl ddofn sy’n addas ar gyfer y ffwrn, ac ychwanegwch y saws béchamel ar ei ben.
  2. Trefnwch dafellau’r ffrwythau a’r llysiau yn eu tro i greu rhes liwgar yn y saws. Peidiwch â’u gosod yn wastad; rhowch nhw ar eu hochrau fel eu bod yn sefyll yn unionsyth.
  3. Parhewch nes bod y ddysgl yn llawn a’ch bod wedi defnyddio’r holl lysiau.
  4. Pobwch yn y ffwrn am 1 awr, neu nes bod y llysiau wedi coginio ac yn feddal.

Rysait gan Lisa Fearn ar gyfer Prynhawn Da.

Instagram - lisafearncooks