Cegin S4C

Cegin S4C

Tarten Tomato a Phesto

Cynhwysion

  • 1 crwst parod (wedi'i rolio)
  • 150g caws hufen (wedi'i feddalu)
  • 3–4 llwy fwrdd pesto gwyrdd
  • 4–6 tomato (wedi'u sleisio'n denau)
  • 1 corbwmpen (wedi'i sleisio'n denau)
  • 125g caws mozzarella (wedi'i rwygo'n ddarnau)
  • 2 lwy fwrdd cnau pinwydd
  • 1 llwy fwrdd caws Parmesan (wedi'i gratio -dewisol)
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1 ŵy (wedi'i guro - i'w frwsio)
  • Dail basil ffres
  • Halen môr a phupur du

Dull

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C (popty ffan).
  2. Dadrolïwch y grwst pwff ar hambwrdd pobi wedi'i leinio â phapur pobi. Gan ddefnyddio cyllell finiog, sgoriwch ffÎn o tua 2cm o amgylch ymyl y crwst heb dorri drwyddo ‘n llwyr. Tyllwch ganol y crwst â fforc.
  3. Taenwch y caws hufen yn gyfartal dros ganol y crwst, gan gadw o fewn y ffÎn wedi'i sgorio.
  4. Rhowch lwyau bach o'r pesto dros y caws hufen, yna ei droelli'n ysgafn drwyddo.
  5. Trefnwch y sleisys tomato a'r gorbwmpen dros y gymysgedd caws hufen. Gwasgarwch y darnau mozzarella drostynt.
  6. Ysgeintiwch y cnau pinwydd a'r Parmesan drosto. Arllwyswch ychydig o olew olewydd drosto a sesnïwch gyda halen môr a phupur. Brwsiwch ymyl y crwst gyda'r wy wedi'i guro a gwasgarwch ychydig o hadau nigella drosto.
  7. Pobwch am 25–30 munud, neu nes bod y crwst yn euraidd, yn grimp ac wedi codi'n dda, a'r caws yn byrlymu.
  8. Gorffennwch gyda dail basil ffres ac ychydig yn fwy o besto neu ychydig o wydredd finegr balsamig, os dymunwch.

Rysait gan Michelle Evans-Fecci ar gyfer Prynhawn Da.
Instagram - bakesbymichelle