Tatws Garlleg wedi’u Gwasgu
Cynhwysion
- 500g tatws newydd
- 2 lwy fwrdd olew olewydd
- 1 llwy fwrdd menyn (wedi toddi)
- 3 ewin garlleg
- ½ llwy de pupur du
- 1 brigyn rhosmari /teim
- 1 llwy de halen môr
- olew olewydd
Saws Menyn Garlleg
- 3 ewin garlleg
- 3 llwy fwrdd menyn
- 1 llwy de darnau tsili
- 1 llwy de persli
Aioli Garlleg
- ¼ cwpan mayonnaise
- ¼ cwpan hufen sur / iogwrt Groegaidd
- 2 ewin garlleg
- 1 llwy fwrdd sudd lemwn / leim
- 2 lwy fwrdd dil
Dull
- Dechreuwch drwy ferwi’r tatws mewn padell fawr o ddŵr hallt am tua 20 munud, nes eu bod yn feddal.
- Draeniwch nhw mewn colandr a’u gadael i sychu drwy stemio am o leiaf 5 munud.
- Leiniwch hambwrdd pobi gydag olew olewydd a’i roi yn y ffwrn i gynhesu nes ei fod yn boeth iawn.
- Mewn powlen, toddwch y menyn, ychwanegwch yr olew a’r holl gynhwysion eraill, yna ychwanegwch y tatws sych a’u cymysgu i’w gorchuddio yn y menyn.
- Tynnwch yr hambwrdd yn ofalus o’r ffwrn, yna tywalltwch y tatws arno.
- Gwasgwch bob un gyda gwaelod gwydr neu gwpan cadarn.
- Rhowch halen, pupur du mâl, a rhai perlysiau ffres wedi’u torri’n fân fel oregano, neu unrhyw un o’ch hoff berlysiau eraill.
- Rhowch yr hambwrdd yn ôl yn y ffwrn a phobwch am 35 munud nes eu bod yn euraidd ac yn grensiog.
- I’w weini, taenellwch ychydig o olew drostynt a mwy o berlysiau wedi’u torri.
Rysait gan Lisa Fearn ar gyfer Prynhawn Da.
Instagram - lisafearncooks