Curwch y menyn nes ei fod yn ysgafn, yna ychwanegwch y siwgr eisin a churwch yn dda. Ychwanegwch y surop masarn, yr halen a naddion croen yr oren, yna cymysgwch yr almonau mâl a’r blawd i mewn, a churo nes ei fod yn ysgafn.
Lapiwch y toes mewn papur pobi a’i roi yn yr oergell am awr i’w galedi ychydig os ydych yn golygu torri siapiau.
Cynheswch y ffwrn i 170°C (ffan).
Gwasgwch y toes yn gadarn i mewn i’r tun gan ddefnyddio cefn llwy, a thyllwch drosto i gyd gyda fforc.
Pobwch am tua 20 munud nes ei fod yn frown euraidd golau. Gadewch iddo oeri ychydig yn y tun, a thaenwch ychydig o siwgr mân drosto.
Marciwch a sleisiwch tra bo’r Teisen Berffro dal yn gynnes, yna trowch allan ar rac oeri a gadewch iddo oeri’n llwyr.
Rysait gan Michelle Evans-Fecci ar gyfer Prynhawn Da