Cegin S4C

Cegin S4C

Teisen Cwrw a Siocled

Cynhwysion

  • 50g coco
  • 200ml cwrw tywyll
  • 1275g  blawd plaen
  • 1 llwy de powdwr soda
  • 1 llwy de powdwr pobi
  • 275g siwgr brown tywyll
  • 100g menyn meddal
  • 2 ŵy

Sglein siocled a chwrw

  • 220g siocled tywyll
  • 220g siwgr eisin
  • 100g menyn
  • 4 llwy fwrdd cwrw tywyll

Hufen

  • 50g siwgr muscovado
  • 50g past brag (malt paste)
  • pinsiaid halen
  • 250ml hufen

Dull

  1. Trowch y ffwrn i wres 180c nwy 4 ac uro tun hirsgwar 25cm. Nesaf gosodwch y coco mewn powlen gan ychwanegu y cwrw iddo i greu past.
  2. Rhydyllwch y blawd ,powdwr soda a phowdwr pobi .
  3. Chwyrliwch y siwgr a’r menyn nes bod yn feddal gan ychwanegu yr wyau a’r blawd yn raddol ac yn olaf plygwch y past coco ir gymysgedd. Gosodwch yn y popty am tua 30/35 mun, gadewch i oeri.
  4. Yna i baratoi y ‘hufen hyfryd’  Chwyrliwch y hufen yn bigau meddal yna  cyfuno y siwgr, past brag (malt paste) a’r halen iddo a chymysgu.
  5. I greu yr eisin, toddwch y siocled mewn powlen dros ddŵr cynnes  yna, chwyrliwch y menyn ar siwgr eisin nes bod yn olau ac yn ysgafn gan ychwanegu y cwrw ac yna y siocled. Defnyddiwch i wasgaru dros y deisen i gyd a gorffen gyda rhysgyl siocled . Gweinwch mewn tafellu gyda y hufen . 

Rysait Gareth Richards

Instagram - cegin_gareth