Teisen Fictoria
Cynhwysion
- 4 wy maes
- 240g siwgr mân
- 240g menyn/margarîn
- 240g blawd codi
I addurno
Dull
- Cynheswch y popty i 180°C.
- Irwch hambwrdd cacennau bach yn dda, neu defnyddiwch dun Teisen Fictoria ag ochrau syth.
- Pwyswch yr wyau (yn eu plisgyn) a nodwch y pwysau (mae 4 wy tua 240g fel arfer).
- Pwyswch yr un faint o siwgr, menyn a blawd mewn powlenni ar wahân.
- Mewn powlen gymysgu, hufennwch y menyn a’r siwgr gyda’i gilydd nes eu bod yn ysgafn ac yn feddal iawn.
- Curwch un wy i mewn ar y tro (ychwanegwch lwy o flawd os bydd y cymysgedd yn dechrau ceulo).
- Hidlwch y blawd a’i blygu’n ofalus i mewn i’r cymysgedd, yna rhannwch y cymysgedd rhwng y tuniau.
- Pobwch am 15–25 munud nes eu bod wedi coginio ac yn euraidd. Bydd yr amser yn amrywio yn ôl y math o dun a ddefnyddir.
- Rhowch y ddwy haen at ei gilydd gyda haen denau o jam mefus, a llwchwch â siwgr eisin.
- Addurnwch gyda mefus.
Rysait gan Lisa Fearn ar gyfer Prynhawn Da
Instagram - lisafearncooks