Cynheswch y ffwrn i 160°C (ffan) / nwy marc 4. Leiniwch dun cacen 23cm gyda phapur pobi.
Malwch y ceirch mewn cymysgydd am ychydig eiliadau i greu blawd bras, yna cymysgwch gyda’r blawd spelt a’r powdr pobi.
Chwisgiwch yr wyau a’r siwgr mân gyda’i gilydd nes eu bod yn drwchus ac yn olau. Ychwanegwch y llaeth, y fanila a’r menyn wedi’i doddi’n raddol. Yna plygwch y blawd, y sinsir coesyn wedi’i dorri’n fân a chroen yr oren i mewn.
Torrwch ben a gwaelod y riwbob a’i dorri’n ddarnau 2–3 cm, yna plygwch hanner i mewn i’r cymysgedd cacen. Arllwyswch y cymysgedd i’r tun a gosodwch weddill y riwbob ar ei ben, gan wasgaru ychydig o geirch ar ei ben.
Pobwch am 45 munud nes bod cyllell/sgiwer yn dod allan yn lân, a gadewch i oeri yn y tun am 20 munud cyn ei dynnu allan.
Arllwyswch tua 2 lwy fwrdd o’r surop sinsir drosodd a gweinwch yn gynnes gyda crème fraîche neu hufen.