Cynheswch y popty i 180°C / Nwy 4. Rhowch y cynhwysion i gyd, heblaw’r ffrwythau, mewn prosesydd bwyd a’u cymysgu tan eu bod yn ffurfio pelen.
Rhannwch y gymysgedd yn ddau a gwasgu hanner i orchuddio gwaelod tun sgwâr 18cm. Rhowch y ffrwythau ar ei phen.
Sgeintiwch ychydig o flawd ar fwrdd a gwasgu gweddill y gymysgedd i siâp a maint y tun. Rhowch hon ar ben y ffrwythau a’i gwasgu i lawr yn ysgafn.
Coginiwch y torte am 40–45 munud tan ei fod yn euraidd ac yn gadarn i’w gyffwrdd. Gadewch iddo oeri yn y tun cyn ei dorri’n 16 sgwâr a sgeintio siwgr eisin ar ei ben cyn ei weini.