Leiniwch dun torth 1 litr gyda digon o ‘cling film’ i lapio’r dorth yn gyfan gwbl.
Rhowch yr hufen, croen a sudd y lemwn mewn powlen a’u chwisgo tan bod y gymysgedd yn gadarn cyn plygu mewn yr iogwrt a’r meringue wedi’u briwsioni’n fras. Cymysgwch y ceuled i weddill y cynhwysion.
Rhowch yn y tun, ei lapio’n dda a’i rhewi am o leiaf 6 awr neu dros nos.
Ar gyfer y saws mafon -rhowch y cynhwysion mewn hylifydd neu brosesydd bwyd a’i gymysgu tan y llyfn. Rhowch drwy rhidyll os am saws gwbl llyfn
Tynnwch y dorth o’r rhewgell rhyw hanner awr cyn ei weini gyda mwy o mafon ffres a’r saws.