Hufenwch y siwgr, y menyn a chroen y lemwn gyda'i gilydd nes eu bod yn ysgafn. Ychwanegwch y mêl.
Curiwch yr wyau i mewn yn raddol nes eu bod wedi'u cyfuno.
Plygwch yr iogwrt, yr almonau mâl a'r blawd hunan-godi i mewn.
Rhowch y cymysgedd yn y dun a phobwch am 40 munud.
Tra bod y gacen yn pobi, paratowch gynhwysion eich topin. Toddwch y menyn mewn sosban, yna ychwanegwch y siwgr, y mêl, yr hufen a'r almonau wedi'u fflecio. Trowch dros wres isel.
Ar ôl i'r gacen goginio am 40 munud, rhowch y topin cnau ar ei ben a phobwch am 10 munud ychwanegol.
Gadewch i oeri'n llwyr cyn ei dorri. Bydd y gacen hon yn para 5 diwrnod wedi'i lapio.