Cynheswch y popty i 160°C (ffan) a gorchuddiwch dun torth 2lb gyda phapur pobi.
Rhowch sudd a chroen yr oren mewn powlen gyda’r sultanas. Cynheswch yn y meicrodon am 1–2 funud nes maen nhw’n meddalu.
Ar gyfer y gacen: Curwch yr wyau, y siwgr, y fanila a’r olew nes bod popeth wedi cymysgu. Ychwanegwch y sudd oren a’r sultanas a chymysgwch eto. Ychwanegwch y blawd, y bicarbonad a’r perlysiau a chymysgwch yn ysgafn. Plygwch yr afalau gratio a’r pecan i mewn a thywalltwch y cymysgedd i’r tun. Pobwch am 50–60 munud neu nes bod siwgrr yn dod allan yn lân. Gadewch i oeri ar rac.
Ar gyfer y compote: Toddi’r menyn mewn sosban, ychwanegu’r afalau wedi’u torri, y siwgr a’r fanila. Coginiwch am tua 10 munud nes bod yr afalau’n dal i gadw eu siâp. Ychwanegwch y sinamon, cymysgwch, a gadewch i oeri.
Ar gyfer yr iâ ffrostio: Curwch y menyn a’r siwgr eisin nes yn llyfn. Ychwanegwch y caws hufennog, croen yr oren, y sinamon a’r fanila a churo nes yn feddal ac yn llyfn. Lledaenwch dros ben y gacen a thopiwch gyda’r compote afal.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.