S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Y Gemau Olympaidd a chynwrf Cross

Ar ol cael ei ddewis ymhlith carfan 7 bob ochr Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd, dyw Sam Cross ddim yn gallu aros tan y gem gyntaf. Ynghyd a blaenasgellwr y Scarlets James Davied, mae'r gwr 23 oed yw'r ddau Gymro o fewn y 12 yng ngharfan Prydain sydd ar fin cystadlu yn Rio de Janeiro.

Mae'r paratoadau terfynol yn digwydd yng ngwersyll tim Prydain yn Belo Horizonte cyn y gem gyntaf yn erbyn Cenia ddydd Mawrth. Mae hwn wrth gwrs yn gyfle anhygoel i Cross wrth i rygbi dychwelyd i'r Gemau am y tro cyntaf ers 1924 -

"Mae'r chwaraewyr i gyd yn sylweddoli bod hyn yn gyfle arbennig ac mae pawb am fanteisio ar hynny.Mae'r broses wedi bod yn anodd yn feddyliol ac yn gorfforol ac mae'n golygu sut gymaint wrth gael fy newis i'r garfan derfynol. Fel bachgen o Frynmawr doedd cystadlu yn y Gemau Olympaidd ddim hyd yn oed yn freuddwyd."

Mae Cross wedi chwarae ei tygbi 15 dim i glwb Casnewydd yn ystod y ddau dymor diwethaf ond mae ei brofiad gyda thim saith bob ochr Cymru wedi bod yn holl bwyisg iddo yn y pendraw -

"Mae'n grwp anodd gyda Seland Newydd, Cenia a Japan i gyd yn gallu cystadlu gyda'r goreuon. Rwy'n nabod eitha tipyn o'r chwaraewyr o'r gylchdaith rhyngwladol a bydd y gystadleuaeth yn anhygoel. Dwi ddim yn gallu aros tan y gic gyntaf!"

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?