S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Uwch-Gynghrair Principality yn allweddol

Mae Prif Weithredwr URC Martyn Phillips wedi datgelu ei weledigaeth strategol ar gyfer Uwch-Gynghrair Principality yn lawnsiad y tymor yng Nglyn Ebwy, Pencampwyr Principality y tymor diwethaf. Fe bwysleisiodd pwysigrwydd y Cynghrair i ddatblygu a chynnal chwaraewyr er mwyn cyryfhau rygbi Cymru.

Mae'r tymor yn cychwyn gydag 16 o dimau'n cystadlu am le yn hanner ola'r Bencampwriaeth gyda'r 8 tim gorau'n cystadlu am y brif wobr. Bydd cystadleuaeth ar gyfer yr 8 tim arall ar gyfer prif dim yr ail adran ac mae gan yr holl dimau'r sicrwydd o chwarae yn yr Uwch- Gynghrair am dair blynedd.

Dywedodd Philllips, "Mae'r gystadleuaeth hon yn sicrhau parhad am dri thymor er mwyn datblygu timau, unigolion, hyfforddwyr a phawb sy'n gysylltiedig a rygbi safon uchel yng Nghymru. Mae'n llwyfan i chwraewyr gyrraedd y brig ac mae gofyn cydweithio rhwng yr Undeb, y clybiau, y cefnogwyr a'r hyrwyddwyr er mwyn cryfhau'r gem ac i sicrhau dyfodol ein clybiau hanesyddol."

Dywedodd Geraint John, Pennaeth Perfformiad yr Undeb, "Y gobaith yw y bydd y cystadlu' n dwysau gyda dim ond 8 tim yn y pendraw yn gallu cyrraedd y brig.Mae'r Cynghrair wedi rhoi cyfle i sawl chwaraewr gyrraedd y lefel ucha yn y gorffenol a'r bwriad yw cynyddu'r nifer hynny. Mae James Davies a Sam Cross o glybiau Cwins Caerfyrddin a Cross Keys wedi ennill fedalau Olympaidd ac mae'r ddau wedi canmol yr Uwch-Gynghrair am helpu eu datblygiad."

Ac yn ol prif hyfforddwr Glyn Ebwy, Nigel Davies, bydd y rowndiau agoriadol eleni yn fwy cystadleuol nag erioed ac os nad yw timau'n dechre'n gryf bydd ganddyn nhw dasg anodd o gyrraedd yr 8 ucha yn y pendraw, "Felly mae'r safon yn siwr o godi," meddai.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?