S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

CYN ARWR Y SCARLETS I HYFFORDDI RHENG FLAEN Y GOGLEDD

Mae'r Prop Phil John, a chwaraeodd 330 o gemau proffesiynol dros Llanelli a'r Scarlets, wedi ymuno gyda RGC 1404 fel chwaraewr-hyfforddwr, ble bydd yn cydweithio gyda chyn- chwaraewr arall i'r Scarlets, Mark Jones, prif hyfforddwr RGC.

Bu John yn hyfforddi'r Scarlets am ddau dymor, mae wedi bod yn hyfforddwr cynorthwyol gyda Llanelli yn ystod y ddau dymor diwethaf ac mae wedi hyfforddi timau iau'r Scarlets.

Bydd yn canolbwyntio ar dîm cyntaf RGC ond bydd hefyd yn helpu datblygu talentau blaenwyr ifanc Gogledd Cymru, ac yn ychwanegol at ei waith gyda'r elfennau gosod gyda Jason Roberts bydd yn cynorthwyo Latham Tawhai gydag amddiffyn RGC.

Dywedodd, "Rydw i wedi mwynhau hyfforddi prif dim a thimau iau'r Scarlets a hyfforddi Llanelli yn yr Uwch Gynghrair ac rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i hyfforddi gyda Mark Jones unwaith eto.

"Mae RGC wedi cymryd camau breision ar ac oddi ar y cae yn ddiweddar ac ar ol treulio peth amser yng Ngogledd Cymru dwi methu aros i wneud fy marc. Rwy'n edrych ymlaen at hyfforddi hyd at y safon uchaf, ac rwyf hefyd yn teimlo bod gen i gyfraniad ychwanegol os caf gyfle i wisgo fy esgidiau rygbi! Wedi rhoi help llaw gyda sesiwn RGC Dan 18 yn ddiweddar, mae'n amlwg nad oes prinder talent yng Ngogledd Cymru, a bydd llawer o'r chwaraewyr rheiny'n datblygu'n chwaraewyr hŷn ymhen dwy flynedd, felly mae'n faes rwy'n awyddus i helpu ei ddatblygu. "

Dywedodd Prif Hyfforddwr RGC 1404 Mark Jones, "Mae Phil yn dod atom gyda llawer iawn o brofiad fel chwaraewr sydd wedi perfformio ar safon uchaf rygbi Ewropeaidd. Fel hyfforddwr mae wedi cyflawni hyfforddiant technegol a thactegol i wahanol oedrannau, gyda phwyslais arbennig ar yr elfennau gosod a'r amddiffyn.

"Bydd mewn sefyllfa fel chwaraewr-hyfforddwr i drosglwyddo'r profiad hwnnw i'r criw ifanc o chwaraewyr yma yn RGC. Mae gennym garfan hynod glos ac o nabod Phil yn dda, bydd yn gallu ymdopi'n berffaith gyda'r amgylchedd . Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Phil eto ac yn teimlo y bydd yn ychwanegu llawer at brofiad chwaraewyr ifanc Gogledd Cymru sy'n awyddus i wella'u sgiliau. "

Ychwanegodd Rheolwr Rhanbarth Datblygu Cyffredinol Golgledd Cymru, Sion Jones, "Phil yw'r cymal terfynol yn y tim hyfforddi yma. Mae ganddo arbenigedd a'r wybodaeth i helpu RGC i gamu i fyny i'r lefel nesaf yn eu datblygiad ac mae ei bersonoliaeth yn cyd-fynd yn dda gyda gweddill y tîm. Nid yn unig y mae ganddo brofiad o'r hyn sydd ei angen er mwyn cyrraedd y brig yn y gêm Ewropeaidd fel chwaraewr, ond mae hefyd yn hyfforddwr profedig gyda chwaraewyr o bob oed. "

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?