S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Cyhoeddi tîm Menywod Cymru ar gyfer gêm Lluoedd Arfog y DU


Mae'r Prif hyfforddwr Rowland Phillips wedi enwi ei dîm Menywod Cymru i chwarae yn erbyn Lluoedd Arfog y DU yng ngêm Sul y Cofio nos Wener yma ar Barc yr Arfau BT Sport, (19:30).

Gyda chwech o newidiadau o'r XV a gychwynnodd y gêm lwyddiannus i Gymru yn erbyn Yr Alban 15-0 bythefnos yn ôl yng Nghaerdydd - gêm gyntaf Phillips 'wrth y llyw - bydd Menywod Cymru'n awyddus i sicrhâu dwy fuddugoliaeth yr Hydref hwn yn eu gêm gystadleuol olaf cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf.

Bydd Dyddgu Howell yn parhau fel cefnwr, gyda phartneriaeth newydd ar yr asgell, sef Adi Taviner (sgoriodd gais yn erbyn yr Alban) a Jess Kavanagh-Williams. Y gobaith yw bydd partneriaeth Rebecca De Filippo a Kerin Lake yn y canol yr un mor effeithiol y tro hwn, tra bo'r maswr Elinor Snowsill hefyd yn cael partner newydd - Keira Bevan.

Ymysg y blaenwyr mae'r prop pen rhydd Cerys Hale a'r prop pen tynn Amy Evans, ynghyd â'r bachwr a'r Capten Carys Phillips, a oedd hefyd wedi croesi'r llinell gais yn erbyn yr Albanwyr. Bydd Siwan Lillicrap yn aros yn yr ail reng, lle mae'n ymuno â Mel Clay. Mae'r rheng ôl ddigyfnewid yn cynnwys y blaenasgellwr ochr dywyll Alisha Butchers, Sioned Harries a'r rhif wyth Shona Powell-Hughes.

Bydd y gatiau'n agor am 18:30. Gellir prynu tocynnau wrth y giât (£ 5 oedolion, £ 1 o dan 16 oed) neu gallwch archebu ar-lein gan URC.

Tîm Menywod Cymru i wynebu Lluoedd Arfog y DU 15 Dyddgu Hywel (Scarlets) 14 Jess Kavanagh-Williams (Scarlets) 13 Kerin Lake (Y Gweilch) 12 Rebecca De Filippo (Dreigiau) 11 Adi Taviner (Y Gweilch) 10 Elinor Snowsill (Dreigiau) 9 Keira Bevan (Y Gweilch) 1 Cerys Hale (Dreigiau ) 2 Carys Phillips (c) (Y Gweilch) 3 Amy Evans (Y Gweilch) 4 Siwan Lillicrap (Y Gweilch) 5 Mel Clay (Y Gweilch) 6 Alisha Butchers (Scarlets) 7 Sioned Harries (Scarlets) 8 Shona Powell-Hughes (Gweilch)

Eilyddion 16 Lowri Harries (Scarlets) 17 Gwenllian Pyrs (Scarlets) 18 Catrin Edwards (Scarlets) 19 Charlie Mundy (Y Gweilch) 20 Rachel Taylor (Scarlets) 21 Sian Moore (Dreigiau) 22 Robyn Wilkins (Y Gweilch) 23 Elen Evans (Scarlets) 24 Jasmine Joyce (Scarlets) 25 Rosie Fletcher (Gweilch) Eilyddion ychwanegol: 26 Meg York (Dreigiau) 27 Kelsey Jones (Y Gweilch) 28 Jodie Evans (Scarlets)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?