Rygbi

Rygbi

MCBRYDE I ARWAIN CYMRU

Robin McBryde bydd yn arwain tim hyfforddi Cymru ar y daith haf i Ynysoedd y Mor Tawel.

Unwaith i Rob Howley cael ei gadarnhau ymhlith tim hyfforddi'r Llewod, cyhoeddwyd y bydd McBryde yn hyfforddi'r tim cendlaethol am y trydd tro ar ol teithio gyda Chymru i'r Unol daleithiau yn 2009 ac i Japan yn 2013.

Dywedodd Martin Philips, Prif Weithredwr URC bydd yr haf yma'n cynnig cyfleon i Gatland, Howley a McBryde i ddatblygu eu doniau hyfforddi er budd Cymru yn y pendraw ac fe ychwanegodd

" Fe fyddwn yn cadarnhau'r tim llawn yn ystod yr wythnos nesa ac rydym yn trafod gyda nifer o unigolion allweddol i fod yn rhan o garfan Cymru".

Mae'r ddwy gem sydd gan Gymru yn erbyn Samoa a Tonga ond dyw'r manylion ddim wedi cael eu cadarnhau eto.

"Mae'r daith yn gyfle cyffroes i'r garfan " medde McBryde, chwraeodd drod Gymru am y tro cyntaf ar daith yn erbyn Fiji ym 1994.

" Byddwn ni'n wynebu dwy genedl sy'n angerddol am rygbi bydd hwn yn gyfle i'r chwaraewyr arddangos eu doniau ar lwyfan tramor. Dwi wedi mwynhau arwain Cymru yn y gorffenol a dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar at y cyfle yma unwaith eto. Yn amlwg bydd rhai chwaraewyr amlwg yn teithio gyda'r Llewod ac felly mi fyddwn ni'n canolbwyntio ar ganfod talentau newydd wrth chwilio am ddwy fuddugoliaeth".