S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

RYGBI’R UWCH GYNGHRAIR DROS YR WYL

Wrth i'r frwydr fynd rhagddi i sicrhau eu llefydd yn haen ucha'r Uwch-Gynghrair, bydd S4C yn darlledu tair gem fyw dros gyfnod yr Wyl.

Caiff y gemau eu dangos hefyd ar Facebook Chwaraeon BywS4C gyda phymtheg gem i gyd yn cael eu dangos yn ystod tymor yn adlewyrchu Uwch Gynghrair principality a'r Cwpan cenedlaethol ynghyd a chystadleuthau'r Plat a'r Powlen.

Wyth tim bydd yn cystadlu i gyrraedd gemau cyn derfynol yr uwch-gynghrair gyda'r wyth arall yn cystadlu am le yn with ola'r Tlws. Bydd y gemau dros yr Wyl yn dyngedfennol i benderfynu pwy fydd yn cystadlu yn y naill a'r llall.

Ar ddiwrnod San Steffan bydd Bedwas sy'n bumed yn croesawi'r Pencampwyr , Glyn Ebwy sy'n nawfed, i Gae'r Bont. Yna ar ddiwrnod ola'r flwyddyn bydd Pontypridd yn croesawi Cross Keys sydd angen esgyn o'i safle presennol – degfed. Ac yna ar Ionawr y seithfed bydd gem fyw arall ond caiff honno ei dewis ar ol y Nadolig gan ddibynnu ar y canlyniadau.

Dywedodd Pennaeth Perfformiad URC Geraint John, " mae'r diddordeb yn yr Uwch Gynghrair wedi cynyddu'r tymor hwn ac mae'n addo diweddglo cyffrous i hanner cynta'r tymor".

Fe ychwanegodd Ryan Jones, Pennaeth Rygbi Cymunedol a Thwf y gem, "Cyn y gem ar Heol Sardis bydd timau ieuenctid Pontypridd a Threorci'n chwarae a bydd mwy o gyfleon i'r ieuenctid chwarae o flaen y camerau yn ystod y tymor sy'n siwr o gryfhau'r berthynas rhwng ylefel yma a'r clybiau ac yn y pendraw y Rhanbarthau".

Ar ran S4C, dywedodd Sue Butler ,y Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon " Mae S4C yn benderfynol o gefnogi rygbi ar bob lefel. Mae rygbi wrth galon amserlen S4C dros yr Wyl a'r gobaith yw y bydd cefnogwyr o bob oedran yn mwynhau'r arlwy".

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?