S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Pencampwriaeth Y 6 Gwlad RBS 2016 – Barn yr arbenigwyr

Pencampwriaeth Y 6 Gwlad RBS 2016 – Barn yr arbenigwyr Gyda Phencampwriaeth y 6 Gwlad RBS yn dechrau'r penwythnos hwn, fe ofynnon ni i rai o arbenigwyr Clwb Rygbi Rhyngwladol, chwaraewyr Cymru o'r gorffennol a'r presennol Andrew Coombs, Dafydd Jones, Gwyn Jones a Jamie Robinson, beth maen nhw'n credu y bydd yn digwydd yn y bencampwriaeth eleni.

Pencampwyr?

Andrew Coombs: Cymru. Dw i'n credu y bydd Cymru yn maeddu Iwerddon yn eu gêm agoriadol. Ond, dw i ddim yn siŵr a fydd ganddyn nhw ddigon o rym i ennill yn erbyn Lloegr yn Twickenham. Rwy'n credu y byddan nhw'n ennill gweddill y gemau, yn gorffen ar frig y tabl ac yn ennill y Chwe Gwlad gydag wyth pwynt.

Dafydd Jones: Cymru. Mae carfan sefydlog ganddyn nhw ac mae'n dda gweld pobl yn dychwelyd ar ôl anafiadau, fel Jonathan Davies yn ôl i'r canol. Dw i'n meddwl os gwnawn nhw guro Iwerddon, fe fydden nhw'n mynd yn eu blaen i ennill y gystadleuaeth.

Gwyn Jones: Dw i'n meddwl mai Cymru fydd yn ennill y Chwe Gwlad. Mae gennym dîm sefydlog gyda hyfforddwyr sefydlog a ffordd sefydlog o chwarae.

Jamie Robinson: Dwi'n wir yn credu mai Cymru fydd yn ennill y Chwe Gwlad. Mae carafán sefydlog gyda nhw, mae chwaraewyr yn dod yn ôl o anafiadau ac mae'r timau eraill yn mynd trwy lawer o newidiadau.

Y tîm i'n synnu?

AC: Lloegr. Rwy'n credu y byddan nhw'n gwthio Cymru i'r pen. Bydd chwaraewyr Lloegr yn awyddus i berfformio ac i ddangos i Eddie Jones bod nhw'n haeddu eu lle yn y garfan. Byddan nhw eisiau ail-adeiladu ar ôl Cwpan y Byd mor siomedig.

DJ: Ffrainc. Ar ôl chwarae mor sâl dros y ddau neu dri thymor diwethaf, rwy'n disgwyl gweld nhw'n troi'r gornel. Maen nhw gyda'r gallu i orffen yn ail ac os cawn nhw dipyn o hyder, fe allen nhw fod yn fygythiad i bawb.

GJ: Ffrainc. Mae ganddyn nhw hyfforddwr newydd, ac fe all gael hyd i ffyrdd o ddatgloi doniau naturiol y Ffrancwyr.

JR: Yr Alban fydd yn creu'r sioc fawr yn y bencampwriaeth eleni. Dw i'n disgwyl iddyn nhw gael pedair buddugoliaeth yn ystod y bencampwriaeth.

Y chwaraewr fydd yn disgleirio

AC: Dylan Hartley. Mae capten newydd Lloegr yn aml yn cael sylw am y rhesymau anghywir. A fydd e'n gallu cadw ei dymer gyda phwysau ei wlad ar ei ysgwyddau? Mae Eddie Jones wedi rhoi ei ffydd ynddo fe a dw i'n siŵr bydd y cyfrifoldeb yn tynnu'r gorau ohono.

DJ: Jonathan Joseph. Mae canolwr Lloegr yn ôl ar ôl anaf ac mae ganddo'r holl sgiliau yn y byd ac mae e'n gyflym iawn. Fe fydd e'n bwysig iawn i Loegr eleni.

GJ: Sam Warburton. Fe wnaeth Cwpan y Byd ddangos mai'r rhif 7 yw'r safle pwysicaf ar y cae. Sam yw'r gorau yn y Chwe Gwlad ac mae ar ei orau yn gorfforol, os gall osgoi anaf bellach wrth gwrs.

JR: Jules Plisson. Mae Ffrainc wedi angen maswr awdurdod ers blynyddoedd ac mae hwn yn dalent go iawn. Wedi'i anafu adeg Cwpan y Byd, rwy'n gobeithio ei weld e' yn y crys glas y tro hwn.

Y gêm i'w gwylio?

AC: Lloegr yn erbyn Cymru yn Twickenham. Bydd Lloegr eisiau dial ar ôl eu colled yng Nghwpan y Byd, ond mae gan Gymru garfan brofiadol wnaiff ddim rhoi'r ffidil yn y to, ac rwy'n disgwyl gêm ffyrnig. Oes gan rywun docyn sbâr?

DJ: Lloegr v Cymru lawr yn Twickers fydd y gêm fawr. Dw i'n meddwl fe welwn ni dîm hollol wahanol gydag Eddie Jones wrth y llyw a bydd Lloegr yn fygythiad mawr i Gymru.

GJ: Lloegr v Cymru. Y gêm fydd yn penderfynu pwy fydd yr ennill y bencampwriaeth.

JR: Yr Alban v Ffrainc. Dau dîm o safon debyg iawn, a dw i'n credu y gall hon fod yn gêm gyffrous iawn.

Seren y bencampwriaeth?

AC: Alun Wyn Jones. Dyw e byth yn siomi, mae e'n gawr ac nid oes llawer yn gweithio mor galed ag ef. Mae e'n arweinydd naturiol ac fe fydd yn allweddol wrth sicrhau bod Cymru'n ennill tlws y Chwe Gwlad.

DJ: Sam Warburton. Mae e' bob amser yn perfformio ar ei orau wrth chwarae i Gymru ac mae e'n arwain ar y cae. Mae e wedi ennill y bencampwriaeth yn y gorffennol a dw i'n meddwl gwnaiff helpu Cymru i ennill y bencampwriaeth eto.

GJ: Sam Warburton. Rwy'n credu y caiff e gystadleuaeth Chwe Gwlad gofiadwy arall dros Gymru.

JR: Sean O'Brien. Fe fydd y Gwyddel yn siomedig iawn bod pencampwriaeth Cwpan y Byd wedi gorffen mor wael iddo fe'n bersonol ac mae ganddo bwynt i'w brofi.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?