S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Sylwebaeth cofiadwy Wyn Gruffydd yn ystod CRB2015

Diolch yn fawr i Wyn Gruffydd ac i Gwyn Jones am sylwebaeth ardderchog trwy gydol gemau Cwpan Rygbi'r Byd 2015.Daeth brawddegau diddorol allan o geg Wyn Gruffydd yn enwedig – diolch i chi gyd am gadw nodyn ohonynt.

Mwynhewch y goreuon!

1. "Does dim angen neb ar Paul James i dorri pen ei wyau."

2. "Mae'n fwy o chocolate orange na toblerone."

3. "Ddalith e ddim hwch mewn pasej!"

4. "O'n ni'n meddwl bydde John Taylor yn cofio enw anthem ei wlad ei hun."

5. "Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain."

6. "Fel tase fe'n goglais brithyll i'r lan!"

7. "Mawredd mawr, eisteddwch i lawr, mae rhywun wedi dwyn fy ngwynt!"

8. "Ma'r gwrthdaro ar brydie wedi bod yn dreisgar. Ma'r dwysder, wel bron a bod, beth wedwn ni, yn bornograffig hyd yn oed."

9. "Ma rhywun am gael carden felen am ddim mwy na chwythu'i drwyn mewn munud!"

10. "Anghrediniaeth ar wyneb Kaino fel petai newydd ddarganfod fod pryfyn yn ei geg!"

11. "Mwy o egni na sydd mewn fferm wynt ar ochrau Pumlumon!"

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?