S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Mae gan dim Cymru Dan 20 llawer mwy i’w roi

Mae prif hyfforddwr Cymru Dan 20 Jason Strange yn credu bod gan ei dîm y potensial i wella mwy eto cyn Pencampwriaeth Rygbi'r Byd dan 20 fis nesaf.

Llwyddodd y tim i ennill y Gamp Lawn gyntaf erioed i Gymru yn yr oedran yma, ond mae Strange yn gwybod y bydd y gystadleuaeth yn dipyn o her ym Manceinion (Mehefin 7 - 25). Mae'r clo Seb Davies, y bachwr Liam Belcher, y cefnwr Josh Macleod a'r asgellwr Tom Williams i gyd wedi dychwelyd i ffitrwydd llawn er mwyn rhoi hwb i'r garfan a berfformiodd mor arbennig yn ystod y Gwanwyn, ac mae Strange yn hyderus gall adeiladu ar undod y garfan yn ystod yr wythnosau nesaf.

"Roedd y broses ddethol yn anodd," meddai Strange. "Roedd hi'n anodd gwahanu carfan a oedd wedi perfformio mor hyderus yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ond bydd y chwaraewyr sy'n dychwelyd wedi anaf yn sicr yn cynnig rhywbeth ychwanegol.

"Bydd angen i ni fod ar ein gorau er mwyn cystadlu ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Byd Dan 20, a'r hyn sy'n ein cyffroi yw'r ffaith bod yr hyfforddwyr a'r chwaraewyr i gyd yn teimlo y gallwn wella'n perfformiad hyd at 20 neu 30%. Er mwyn cyrraedd y nôd hwnnw byddwn yn gweithio'n galed dros y chwe wythnos nesaf.

"Mae'n anrhydedd enfawr i'r chwaraewyr i gynrychioli eu gwlad mewn pencampwriaeth byd-eang ac rydym am sicrhau eu bod yn cyflawni eu llawn potensial tra'n mwynhau pob eiliad."

Enillodd chwaraewyr Strange glod yn y Chwe Gwlad, nid yn unig am eu canlyniadau ond am arddangos arddull mor ymosodol yn eu chwarae.

"Byddwn yn parhau â'n harddull ymosodol o rygbi. Rydym wedi dangos ein bod yn gweithio'n dda fel tim, yn canolbwyntio ar ein cryfderau allweddol. Byddwn yn adeiladu ar hynny yn ystod y cyfnod hwn ac mewn gwersyll hyfforddi tridiau yng Nghlwb Rygbi Trefynwy ymhen pythefnos."

Mae Undeb Rygbi Cymru a'r Gweilch wedi cytuno bydd y canolwr Owen Watkin yn derbyn cyfnod o orffwys yn dilyn tymor rygbi hir a chaled er mwyn caniatáu iddo hyfforddi'n ddwys y tymor nesaf er mwyn cyrraedd ei lawn botensial.

Bydd pob un o gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Dan 20 y Byd yn cael eu darlledu gan S4C.

<strong>Carfan Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd:</strong>

Blaenwyr: Tom Phillips (capten, Sgarlets), Rhys Fawcett (Scarlets), Corey Domachowski (Gleision), Leon Brown (Dreigiau), Kieron Assiratti (Gleision), Dillon Lewis (Gleision), Liam Belcher (Gleision), Dafydd Hughes (Scarlets ), Adam Beard (Y Gweilch), Seb Davies (Gleision), Shane Lewis-Hughes (Gleision), Shaun Evans (Scarlets), Harrison Keddie (Dreigiau), Morgan Sieniawski (Gleision), Josh Macleod (Scarlets).

Olwyr: Reuben Morgan-Williams (Y Gweilch), Declan Smith (Scarlets), Daniel Jones (Scarlets), Billy McBryde (Sgarlets), Jarrod Evans (Gleision), Kieran Williams (Gweilch), Joe Thomas (Gweilch), Harri Millard (Gleision ), Tom Williams (Y Gweilch), George Gasson (Dreigiau), Keelan Giles (Y Gweilch), Rhun Williams (RGC 1404), Joe Gage (Y Gweilch).

Gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd

7 Mehefin (17.30) Cymru v Iwerddon Stadiwm Manchester City Academy

11 Mehefin (15.45) Cymru v Georgia Stadiwm Manchester City Academy

15 Mehefin (17.30) Seland Newydd v Cymru Stadiwm Bell AJ Cymru

Mae gan Gymru Iwerddon, Georgia a Seland Newydd yng ngrwp A

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?