S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Kynes yn arwain Glyn Ebwy i fuddugoliaeth yn yr Uwch Gynghrair

Glyn Ebwy sydd wedi eu coroni'n bencampwyr Uwch Gynghrair Principality 2016. 'Dydy pethau ddim wedi bod yn hawdd iddyn nhw ond wrth wella ar eu perfformiad y tymor diwethaf fe lwyddodd y Gwyr Dur i amddifadu Pontypridd o'u tlws ar Heol Sardis.

Ar ôl teithio i gartref enillwyr Cwpan Swalec SSE, Llanymddyfri, yn y rownd gyn-derfynol, bu raid i Wyr Gwent ddychwelyd i Heol Sardis am yr ail dymor yn olynol ar gyfer y ffeinal, er mwyn herio Pontypridd - tim a oedd yn chwilio am eu pumed tlws yn olynol.

Ond dan arweiniad chwaraewr Uwch Gynghrair y tymor, Ronny Kynes, a groesodd am ddau o bum cais ei dîm, daeth buddugoliaeth gwerthfawr 38-12 i Glyn Ebwy - eu tlws cenedlaethol cyntaf ers iddynt gael eu coroni'n Bencampwyr Answyddogol Cymru am y pedwerydd tro yn 1959/60.

Roedd Pontypridd yn chwilio am eu pumed tlws yn olynol er mwyn ychwanegu at Gwpan Her Foster enillon' nhw yn erbyn Bedwas yn gynharach yn y tymor. Roedden nhw am fynd un yn well na record pedwar tlws Uwch Gynghrair Castell-nedd.

Ond cyrhaeddodd Glyn Ebwy gyda'r bwriad o dalu'r pwyth yn ol wedi iddyn nhw gael eu trechu y tymor diwethaf yn yr un lleoliad . Aeth yr ymwelwyr ar y blaen gyda'u hymosodiadau prin, pwrpasol ac yn syml iawn, 'doedd gan y tîm cartref ddim ateb i'w grym na'u hamddiffyn cadarn.

"Dod yma ac ennill yn erbyn tîm da iawn sydd wedi cipio'r pedwar tlws diwethaf. Bachu buddugoliaeth yn y modd mwyaf anrhydeddus yma ar Heol Sardis, mae'n hollol wych," cyfaddefodd prif hyfforddwr Glyn Ebwy Nigel Davies.

"Mae pawb wedi eu hysbrydoli o fewn y garfan, ac mae'n wefreiddiol. Dyna sy'n mynd a chi dros y llinell.

"Mae'r chwaraewyr i gyd wedi gweithio'n galed iawn, ac maent wedi dangos penderfyniad aruthrol yn eu hawydd i ennill. Daeth hynny'n amlwg yn ystod yr hanner cyntaf pan mai dim ond amddiffyn fu raid i ni'i wneud. Cadwodd y bechgyn eu pennau, parhau i daclo ac yn y pendraw 'doedd gan Ponty unman i fynd."

"Roedd llawer o brofiad yn y garfan ar ôl bod i'r rownd derfynol y tymor diwethaf ac fe ddefnyddiodd y bechgyn hynny er mwyn creu momentwm i fynd â ni dros y llinell gais. Bydd y fuddugoliaeth hon yn golygu popeth i'r chwaraewyr, ond hefyd i gefnogwyr Glyn Ebwy, sydd wedi bod ffantastig drwy gydol y tymor."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?