S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Yr Her Ewropeaidd i'r Rhanbarthau

Yng Nghwpan y Pencampwyr bydd y Scarlets yn wynebu' Saracens y deiliaid yng ngrwp 3 yn ogystal a'r cyn-bencampwyr Toulon a Sale.

Bydd Racing 92, Pencamwpwyr Ffrainc eleni yn yr un grwp a Glasgow, Caerlyr a Munster.

Grwp 5 yw Caerwysg, Clermont, Ulster a Bordeaux Begles; yng ngrwp 2 mae Connacht, Wasps, Toulouse a Zebre; Leinster, Montpellier, Northampton a Castres sydd yng ngrwp 4.

Dywedodd Wayne Pivac, prif hyfforddwr y Scarlets bod y grwp yn cynnig sialens anferth i'w garfan yn enwedig arol perfformaidau siomedig y tymor diwethaf, "Wrth gwrs bod e'n grwp anodd eithriadol ond ar yr un pryd mae e'n gyfle cynhyrfus i wynebu rhai o dimau cryfa'r cyfandir," meddai.

Ond dyw cyfarwyddwr rygbi'r Saracens, Mark McCall ddim yn diystyru'r Scarlets o gwbl, "Gyda chwaraewyr fel Jonathan Davies a Rhys Patchell yn eu plith, mae'r Scarlets wedi cryfhau" meddai,"mae hwn yn grwp anodd iawn."

Yn y Cwpan Her mae'r Gleision yng ngrwp 4 ynghyd a Pau, Caerfaddon a Bryste; bydd y Dreigiau yn chwarae yn erbyn Brive, Caerwrangon ac Enisei-STM o Rwsia ac mae'r Gweilch yn wynebu Grenoble, Newcastle a Lyon yng ngrwp 2.

Dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch Steve Tandy, "Mae hwn yn grwp da i ni. Mae'r garfan yn ifanc ond bydd y profiad o chwarae'r timau hyn ar lwyfan Ewropeaidd yn siwr o'u gwella fel unigolion ac fel tim."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?