Mae bwlio'n digwydd i bob math o bobl ac am bob math o resymau. Gall ddigwydd yn yr ysgol, yn y gweithle ac yn y cartref.
Llinell wybodaeth a gwasanaeth dwyieithog arlein am ddim ar unrhyw bwnc os ydych rhwng 0 a 25.
Os ydych dan 18 ac yn poeni am unrhyw beth, gallwch gael help unrhyw awr o'r dydd neu nos drwy ffonio Childline Cymru am ddim, neu drwy fynd i'w gwefan am fwy o wybodaeth. Mae yna oedolion yna i'ch helpu chi sortio unrhyw broblem yn eich bywyd. Os ydych fethu clywed yn dda iawn gallwch ffonio drwy ffôn testun ar y rhif sy'n cael ei roi yma.
0800 1111
Mae EACHaction yn cynnig help i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan fwlio oherwydd eu rhywioldeb. Ffoniwch neu ewch i'r gwefan am fwy o fanylion.
0808 1000 143
Mae FFLAG yn cynnig cefnogaeth i grwpiau rhieni lleol sy'n ceisio dod i ddeall aelodau o'r teulu sy'n lesbiaid, hoywon neu'n ddeurywiol. Maent hefyd yn gweithio ar brosiectau i daclo bwlio yn erbyn hoywon.