Cymorth

Cymorth

Anhwylder Deubegwn

Mae anhwylder affeithiol deubegwn yn cael ei gysidro'n anhwylder tymer, pan mae tymer yn mynd o un pegwn eithafol i'r llall, fel arfer o fod yn uchel iawn (mania) i fod yn isel iawn (iselder). Daw'r salwch ar ffurf 'episodau', cyfnodau uchel ac isel sydd fod mor eithafol nes amharu ar eich bywyd arferol.

  • Saneline

    Mae SANE yn rhedeg llinell gymorth genedlaethol, allan-o-oriau sy'n cynnig cefnogaeth arbenigol emosiynol i unrhyw un sy'n byw gyda salwch meddwl, yn cynnwys teuluoedd, ffrindiau neu gofalwyr. Mae'r wefan yn un cynhwysfawr yn cynnig cyngor am eich lles meddyliol. Mae'r llinell ar agor rhwng 4.30pm a 10.30pm yn ddyddiol.

    0300 304 7000

    www.sane.org.uk

    • Gofal

      Elusen sy'n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i bobl â phroblemau iechyd meddwl, yn cefnogi eu hannibynniaeth, gwellhad, iechyd a lles.

      www.gofalcymru.org.uk


      • Hafal

        Un o brif elusennau Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a'u gofalwyr. Cefnogaeth a help o bob math, yn cynnwys grwpiau lleol ar draws Cymru.

        www.hafal.org


        • Mind Cymru

          Cyngor a chefnogaeth dwyieithog i unrhyw un sydd gyda problem iechyd meddwl, ond gyda gwybodaeth clir a da ar ystod o bynciau.

          www.mind.org.uk


          • Meddwl.org

            Gwefan cynhwysfawr yn y Gymraeg sy'n cynnig erthyglau, dolenni a adnoddau cefnogol i bobl sy'n byw gyda problemau iechyd meddwl.

            meddwl.org

            • Cyngor ar Iechyd Meddwl ag Arian

              Gwasanaeth sy'n gallu rhoi cefnogaeth a chyngor i chi am unrhyw faterion ariannol sy'n eich poeni pan yn byw gyda salwch meddwl.

              www.mentalhealthandmoneyadvice.org

              • Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

                Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion llawn gwybodaeth gyfredol fanwl ar bob math o iselder a salwch meddwl, yn cynnwys y sumtomau a'r opsiynau gorau yn nhermau triniaeth.

                www.rcpsych.ac.uk