Cymorth

Cymorth

Anhwylderau bwyta

Mae llawer o bobl yn cael eu heffeithio gan anhwylderau bwyta, sy'n gallu golygu gorfwyta gymaint â ddim bwyta digon. Gall perthynas anodd gyda bwyd greu problemau iechyd difrifol iawn, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mwy o wybodaeth am wahanol fathau o anhwylder bwyta, yn enwedig os mae'n effeithio un ai'ch bywyd chi neu rywun agos.

  • Beat

    Beat un o'r prif elusennau i bobl sydd wedi eu heffeithio gan anhwylderau bwyta yn y DU. Mae grwpiau hunan gymorth a chwnsela arbenigol ar gael yng Nghymru, sef ym Mangor, Abertawe, Caerdydd ac Aberteifi.

    0808 801 0677

    0808 801 0711 i bobl ifanc

    www.beateatingdisorders.org.uk


    • ABC

      Mae Anorexia and Bulimia Care yn cynnig cefnogaeh i'r sawl sy'n dioddef o anhwylder bwyta, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Ceir llinell gymorth a help ar-lein.

      03000 11 12 13

      www.anorexiabulimiacare.org.uk

      • Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

        Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion llawn gwybodaeth gyfredol fanwl ar bob math o iselder a salwch meddwl, yn cynnwys y sumtomau a'r opsiynau gorau yn nhermau triniaeth.

        www.rcpsych.ac.uk

        • The Mix

          Mae The Mix yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog i unrhyw un o dan 25. Mae'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i iechyd rhywiol, neu beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.

          Tecstiwch 'THEMIX' i 85258

          www.themix.org.uk

          • Meic

            Llinell wybodaeth a gwasanaeth dwyieithog arlein am ddim ar unrhyw bwnc os ydych rhwng 0 a 25.