S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Dementia

Mae mathau o dementia fel arfer yn effeithio pobl hyn, ac oherwydd fod y boblogaeth yn heneiddio, mae'r glefyd yn un fwy cyffredin. Beth sy'n nodweddiadol o'r cyflwr yw fod y galluoedd meddyliol yn gwaethygu, yn enwedig y gallu i resymu a chofio. Un math o ddementia yw Alzheimer's, ond mae sawl ffurf arall hefyd.

Yn anffodus, does dim ffordd o wella'r clefyd ar gael ar y funud, ond mae'r mudiadau sy'n cael eu rhestru yma yn gallu cynnig cefnogaeth i'r sawl sy'n byw gyda'r cyflwr, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

  • Llinell Gymorth Dementia Cymru

    Cefnogaeth ddwyieithog i unrhyw un, o unrhyw oedran, sydd yn edrych ar ôl person gyda dementia.

    0808 808 2235

    www.dementiahelpline.org.uk

  • Cymdeithas Alzheimer's

    Cymdeithas sydd yn gallu rhoi cefnogaeth a chymorth i'r sawl sy'n byw gydag Alzheimers, eu teuluoedd neu ofalwyr. Mae yna canghenni i'w cael yng Ngogledd a De Cymru.

    0300 222 11 22

    www.alzheimers.org.uk

  • Protocol Herbert

    Nod y cynllun yw cynorthwyo i ddiogelu pobl sy'n byw â dementia. Mae hyn yn enwedig os, wrth i'w cyflwr ddatblygu, maent yn dechrau 'crwydro' sydd ddim yn anarferol yn dilyn diagnosis. Mae'r Protocol Herbert wedi'i ddylunio i gynorthwyo i leoli unigolion yn ddiogel ac iawn os ydynt yn mynd ar goll. Mae'n rhoi tawelwch meddwl i deulu a ffrindiau fod gan yr heddlu'r holl wybodaeth maent ei hangen i gynorthwyo lleoli'r unigolyn. Mae'r Protocol Herbert yn fenter genedlaethol gan heddluoedd yng Nghymru ac eraill o amgylch y DU. Mwy o wybodaeth yn y dolenni isod:

    Gogledd Cymru

    De Cymru

    Dyfed-Powys

    Gwent

  • DEEP

    Mae'r Dementia Engagement and Empowerment Project yn ceisio sicrhau fod llais y sawl sy'n byw gyda dementia yn cael ei glywed yn glir o fewn polisïau a gwasanaethau. Sawl grwp yng Nghymru, manylion ar y gwefan.

    dementiavoices.org.uk

  • Cynhalwyr Cymru

    Mudiad sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i ofalwyr yng Nghymru, ac yn ymgyrchu am eu hawliau hefyd. Cysylltwch â nhw am unrhyw agwedd o edrych ar ôl eraill, o ble i gael help ariannol i'ch gwasanaethau lleol.

    0808 808 7777

    www.carersuk.org/wales

  • Patient.info

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

    www.patient.info

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?