S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Deg argymhelliad os yw eich perthynas hŷn wedi hunan-ynysu

Awgrymiadau ymarferol ar beth i wneud o ddydd i ddydd yn y sefyllfa yma, wedi eu datblygu rhwng y Matia Fundazioa o Wlad y Basg, Canolfan am Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe ac eraill.

  • Trefnwch i gysylltu’n ddyddiol.

    Trwy alwad ffôn, galwad fideo neu unrhyw ffordd ddiogel arall i chi a'r aelod o'ch teulu.

    Manylion defnyddiol iawn o sut i gadw cysylltiad yma:

    Ofcom - Cadw'r Cysylltiad yn ystod y coronafeirws

    Llinell Gymorth Age UK 0800 678 1602 - manylion gwasanaeth cyfeillio

    Sut mae defnyddio Zoom

  • Ceisiwch gadw’n gadarnhaol ac gyfeillgar tra’n sgwrsio.

    Dywedwch wrthynt sut mae pethau'n mynd i chi, a'r pobl eraill mae nhw'n eu caru.

  • Anogwch nhw i gwblhau eu harferion gofal personol yn rheolaidd.

    Hylendid, dillad, meddyginiaeth, rhywfaint o ymarfer corff, mae cadw pethau i fynd yn bwysig... Os ydych chi'n gwybod am unrhyw weithgareddau ystyrlon maent yn hoffi gwneud, ac mae'n sâff iddynt wneud gartref, anogwch nhw i barhau. Siaradwch am beth sydd wedi newid i chi hefyd.

  • Sicrhewch eu bod yn bwyta'n dda a bod y meddyginiaeth iawn ganddynt.

    Gallai hyn olygu helpu gydag archebu bwyd ar-lein neu sicrhau bod ryw fath o gymorth ar gyfer siopa yn eu cymdogaeth, os ydych chi'n byw ymhell i ffwrdd. Ystyriwch beth maent yn hoffi ac anogwch iddynt gael rai danteithion, rhywbeth i edrych ymlaen ato.

    Gwybodaeth am sut i fwyta'n dda yn y cyfnod coronafeirws, yn enwedig os yn hunan-ynysu.

    Ffeindiwch grwp lleaol all helpu drwy COVID-19 mutual aid

    Cyngor gan Mind am cynnal llesiant tra'n aros adref yn ystod y cyfnod coronafeirws

  • Mae adloniant yn bwysig.

    Sicrhewch fod yr hoff bethau ar gael iddynt. Os ydynt yn gallu defnyddio cyfryngau digidol, ceisiwch rannu cerddoriaeth neu lyfrau neu eu hannog i ddefnyddio pethau fel y BBC IPlayer. Ar gyfer cyfryngau yn y Gymraeg, gallent ddefnyddio naill ai IPlayer neu S4C Clic, yn ogystal â'r darllediadau arferol wrth gwrs. Cymerwch amser i siarad am hoff sioeau, ffilmiau, cerddoriaeth neu lyfrau. Os gallwch chi, anfonwch rywbeth atynt i annog unrhyw hobïau.

    Ma chi rhai awgrymiadau:

    Daliwch i fyny gyda Bocs Set ar S4C Clic

    Mae Google wedi partneru gyda dros 2,000 o amgueddfeydd ar draws y byd, gyda teithiau rhithiol i sawl un

  • Anfonwch luniau o aelodau'r teulu, nodiadau llais, trwy WhatsApp neu e-bost.

    Pa bynnag ffordd sy'n addas... Os nad oes ganddynt ffordd ddigidol o gysylltu, beth am anfon llun o'r teulu gyda neges ar y cefn drwy'r post, pan yn bosib? Efallai nawr yw'r amser i sortio'r hen luniau yna yng nghefn y cwpwrdd!

    Sut mae sefydlu grwp ar Zoom

  • Atgoffwch nhw o'u cryfder wrth ddelio â sefyllfaoedd y gorffennol.

    Mae gan bobl hŷn llond bywyd o brofiad a llawer un wedi goresgyn sefyllfaoedd anodd yn y gorffennol.

  • Anogwch nhw i gysylltu â ffrindiau, a chymdogion maent yn eu hadnabod.

    Bydd llawer ohonynt mewn sefyllfaoedd tebyg ac yn gallu rhannu eu profiadau a'u pryderon â'i gilydd. Os nad ydynt ar gyfryngau cymdeithasol, anogwch ffonio cwpwl o ffrindiau bob dydd.

  • Gwrandewch arnyn nhw ac ateb eu cwestiynau.

    Gwnewch yn siwr fod gwybodaeth a fydd o help ganddynt. Trafodwch y sefyllfa bresennol wrth gwrs, ond cofiwch sôn am bethau eraill hefyd.

  • Os yn bosibl, rhannwch y cyswllt hwn â'r perthynas hŷn ymhlith eraill maent yn eu hadnabod.

    Mae'n dda i'r person, ond hefyd i weddill y teulu.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?