S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Naw argymhelliad os yw aelod o'ch teulu ar ei ben ei hun yn yr ysbyty.

Help a cyngor os oes rhywun rydych chi'n ei adnabod yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod hwn. wedi ei ysbrydoli gan waith y Matia Fundazioa o Wlad y Basg, a'i ddatblygu gyda'r Canolfan am Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe.

  • Cofiwch nid eich bai chi yw'r ffaith eich bod ar wahân.

    Siŵr o fod, fel gofalwr, rydych wedi arfer gwneud popeth o fewn eich gallu i'r aelod o'ch teulu. Er bod hi'n anodd derbyn eich bod methu gwneud hyn yn iawn yn y cyfnod yma, mae'n bwysig ceisio derbyn cyfyngiadau'r sefyllfa. Atgoffwch eich hun mai amgylchiadau allanol, nid eich bai chi, sy'n nadu chi fod wrth eu hochr nawr.

    Cefnogaeth a gwybodaeth i ofalwyr gan Carers UK

    Gwynebu COVID - sgwrs defnyddiol gan Dr Russ Harris

  • Ymarferwch ffyrdd o dawelu'r meddwl.

    Drwy adael i emosiynau negyddol fod yn drech arnom, ychwanegwn at ddioddefaint, ac mae'n llawer anoddach meddwl yn glir. Mae'n hollol naturiol i deimlo emosiynau negyddol, ond os gallwch chi, derbyniwch nhw wrth iddynt godi. Yna, gwnewch rywbeth i ymlacio. Os oes ffyrdd o wneud hyn ganddoch eisoes, defnyddiwch nhw: canolbwyntio ar eich anadl, ioga neu dechnegau myfyrio fel meddylgarwch – nawr yw'r amser i ymarfer unrhyw ffordd i osgoi cynhyrfu'n ormodol, a'u hymarfer yn rheolaidd. Cofiwch y gall rhywbeth mor syml a chymryd tri anadl dwfn, ac anadlu allan yn araf, eich helpu i ymlacio rhywfaint.

    Rhywfaint o help gan Mind

    Deunydd myfyrio ac ymlacio yn y Gymraeg

    Deunydd Smiling Mind i'ch helpu ymalcio yn ystod cyfnod Covid

    Cymorth safonol ar sut i fyfyrio o Insight Timer

  • Rhaid ymddiried eu bod mewn dwylo da.

    Er nad ydych yno, cofiwch fod gweithwyr proffesiynol o'u cwmpas, sy'n gwneud eu gorau glas i ddarparu'r gofal gorau.

  • Rhaid ymddiried eu bod yn gallu addasu i'r sefyllfa.

    Mae gan bobl allu gwych i addasu, hydynoed i sefyllfaoedd anodd, niweidiol. Pan mae rhywun yn sâl, yn aml rydym yn ffocysu ar ba mor fregus ydyn nhw; ond i ni beidio ag anghofio dyfeisgarwch cynhenid pawb hefyd, y gallu i ddatblygu cryfder mewnol mewn sefyllfaoedd tebyg.

  • Myfyriwch ar sut i drin y sefyllfa anodd hon.

    Da chi hefyd yn y broses o addasu, cofiwch. Byddwch yn graff ar sut i wneud hyn a chyflawni pethau angenrheidiol fesul tipyn, cam wrth gam, fel eich nod personol.

  • Cysylltwch â nhw.

    Os allwch ffonio neu anfon neges destun neu ddefnyddio unrhyw ddulliau eraill fel WhatsApp, defnyddiwch nhw. Os nad yw'n bosib cysylltu ar y funud, beth am recordio fideo neu neges lais a rhoi'r rhain iddynt nes mlaen.

  • Yn lle poeni, canolbwyntiwch ar deimladau cadarnhaol.

    Mae'n normal i boeni yn y sefyllfa, ond ceisiwch dderbyn y meddyliau hyn pan fyddant yn codi. I nadu'r teimlad o gael eich llethu gan bethau, canolbwyntiwch ar atgofion da a gweithiwch ar gael teimladau annwyl a diolchgar am yr aelod o'ch teulu, yn lle rhai negyddol. Os ydych yn grefyddol, neu gyda chredoau ysbrydol yn gyffredinol, gallwch drio gweddïo drostynt neu ddychmygu sefyllfaoedd positif.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gorffwys ac yn atgyfnerthu.

    Mae rôl gofalwr yn un sy'n arwain at flinder mawr weithiau. Gallwn ofalu'n llawer gwell pan mae'r egni gennym, a'n bod wedi gorffwys yn iawn. Os gallwch chi, manteisiwch ar y cyfle i atgyfnerthu drwy orffwys a gofalu amdanoch chi'ch hun am nawr.

  • Dysgwch dderbyn yr hyn na allwch ei reoli.

    Yn gyffredinol, mae pawb yn hoffi rheoli cymaint ag y gallent ar fywyd, ond mae yna amgylchiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth: rhaid derbyn fod pethau fel mae nhw yn y foment yna. O bosib daw llai o ddioddefaint drwy dderbyn bywyd fel y mae'n codi i ni.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?