S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Galar a COVID-19

Yn y cyfnod anodd yma, manylion cefnogaeth arbenigol i bobl sydd wedi colli rhywun agos.

  • Cruse Bereavement Care

    Mae Cruse Cymru yn cynnig gwasanaethau cynghori, gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth. Mae deg grŵp ar draws Cymru a chynigir cyngor arbenigol ar brofedigaeth i blant a chyngor dros y ffôn gan wirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi a'u dethol yn ofalus. Ffoniwch neu ewch i'r gwefan am fwy o wybodaeth, yn cynnwys sut i gael hyd i gymorth lleol.

    0808 808 1677

    Cyngor arbenigol oherwydd COVID-19

  • Mind Cymru

    Cyngor a chefnogaeth dwyieithog i unrhyw un sydd gyda problem iechyd meddwl, ond gyda gwybodaeth clir a da ar ystod o bynciau, yn cynnwys yng nghyfnod COVID-19.

    www.mind.org.uk

  • The Compassionate Friends

    Mae'r Compassionate Friends yn cynnig llinell gymorth a gwefan gyda fforymau i helpu rhieni sydd wedi colli plentyn. Ceir rhagor o wybodaeth i frodyr neu chwiorydd sydd wedi colli rhywun ar wefan arall gysylltiedig.

    0345 123 2304

    www.tcf.org.uk

  • Support Around Death

    Adnoddau da gan GIG ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol yn yr Alban ynghylch marwolaeth a phrofedigaeth yn ystod pandemig COVID-19.

    www.sad.scot.nhs.uk/covid-19/

  • Ymddiriedolaeth Colli Plentyn

    Un oi'r prif elusennau sy'n cefnogi pobl sydd wedi colli plentyn, neu'n helpu plant trwy gyfnod o alaru.

    0800 02 888 40

    childbereavementuk.org

  • Childhood Bereavement Network

    Cyngor a chymorth os ydych yn ceisio delio gyda cholled.

    www.childhoodbereavementnetwork.org.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?