Anelir y gwybodaeth yma at bobl sydd wedi bod yn y lluoedd, ond mae Anhwylder Straen wedi Trawma yn gallu effeithio unrhyw berson sy'n mynd drwy brofiad trawmatig yn eu bywydau, un fel arfer sydd wedi golygu bygythiad corfforol difrifol.
Yn seicolegol, mae rhai pobl yn ei chael hi'n anodd i ddelio gyda'r argraff gryf ar y cof mae hyn yn ei greu ac yn mynd ymlaen i ddioddef o sumtomau yn cynnwys hunllefau neu ail fyw'r profiad yn annisgwyl.
Gall hyn gael effaith mawr ar eu bywydau, yn cynnwys ar eu perthynas ag eraill neu'r gallu i weithio, yn enwedig wrth geisio ail afael ar fywyd tu allan i'r lluoedd. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r dealltwriaeth o'r cyflwr yn gwella, ac mae yna mwy nag un triniaeth ar gael i helpu gyda'r cyflwr.Ceir gwybodaeth am gefnogaeth a help yma.
Help a chefnogaeth i gyn filwyr o Wasanaeth Iechyd Cymru.
Gwasanaethau gan gyn-filwyr i gyn-filwyr, mae Change Step yn cynnig mentora a chymorth i gael gafael ar wasanaethau perthnasol - gan gynnwys cefnogaeth gydag iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, cyfiawnder troseddol a ffeindio lle i fyw.
0300 777 2259
0800 138 1619
Cyngor a chefnogaeth dwyieithog i unrhyw un sydd gyda problem iechyd meddwl, ond gyda gwybodaeth clir a da ar ystod o bynciau.
Gwefan cynhwysfawr yn y Gymraeg sy'n cynnig erthyglau, dolenni a adnoddau cefnogol i bobl sy'n byw gyda problemau iechyd meddwl.
116 123