S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Adnoddau Iechyd Meddwl

Mae tudalennau S4C Cymorth eisioes gyda gwybodaeth o bob math, a dyma gasgliad o adnoddau defnyddiol i'ch helpu gyda iechyd meddwl.

  • Tir Dewi

    Mae Tir Dewi yn helpu i gefnogi ffermwyr a'u teuluoedd, trwy geisio datrys unrhyw bryderon a dod o hyd i atebion i broblemau, mawr neu bach.

    0800 121 4722 Llinell ddwyieithog ar agor rhwng 7pm a 10pm

    tirdewi.wales

  • Sefydliad DPJ

    Cwnsela a hyfforddiant i gefnogi iechyd meddwl ffermwyr a phobl sy'n gweithio mewn cymunedau gwledig.

    0800 587 4262 neu tecstiwch 07860 048799

    www.thedpjfoundation.co.uk

  • Shout

    Help gyda iechyd meddwl i bawb dros neges, unrhyw amser or diwrnod.

    Tectiwch: 85258

    giveusashout.org

  • Mind Cymru

    Cyngor a chefnogaeth dwyieithog i unrhyw un sydd gyda problem iechyd meddwl, ond gyda gwybodaeth clir a da ar ystod o bynciau, yn cynnwys yng nghyfnod COVID-19.

    www.mind.org.uk

  • Hillsborough Survivors Support Alliance

    Cymorth a chefnogaeth i bobl wnaeth ddioddef oherwydd tychineb Hillborough.

    www.hsa-us.co.uk

  • Anxiety UK

    Elusen sy'n rhoi cefnogaeth a gwybodaeth am bob math o or-bryder.

    03444 775 774

    www.anxietyuk.org.uk

  • Meic

    Llinell wybodaeth a gwasanaeth dwyieithog arlein am ddim ar unrhyw bwnc os ydych rhwng 0 a 25.

  • Head Above The Waves

    Sefydliad di-elw wedi'i leoli yng Nghymru sy'n codi ymwybyddiaeth o iselder a hunan-niwed ymhlith pobl ifanc. Maent yn cynnig gweithdai ac adnoddau, rhai yn ddwyieithog, yn ogystal â chyfeirio at ffynonellau cymorth.

    hatw.co.uk

  • Meddwl.org

    Gwefan cynhwysfawr yn y Gymraeg sy'n cynnig erthyglau, dolenni a adnoddau cefnogol i bobl sy'n byw gyda problemau iechyd meddwl.

    meddwl.org

  • CALM - Campaign Against Living Miserably

    Help a chefnogaeth gan elusen sy'n ceisio helpu dynion ifanc sy'n teimlo'n isel, ac atal hunanladdiad, sef prif reswm marwolaeth dynion o dan 45 yn y DU.

    0800 585858

    www.thecalmzone.net

  • YoungMinds

    Gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu gyda'ch bywyd emosiynol a'ch iechyd meddwl. Hefyd, help i geisio deall os yn rhiant neu'n ofalwr i berson ifanc.

    www.youngminds.org.uk

  • Saneline

    Mae SANE yn rhedeg llinell gymorth genedlaethol, allan-o-oriau sy'n cynnig cefnogaeth arbenigol emosiynol i unrhyw un sy'n byw gyda salwch meddwl, yn cynnwys teuluoedd, ffrindiau neu gofalwyr. Mae'r wefan yn un cynhwysfawr yn cynnig cyngor am eich lles meddyliol. Mae'r llinell ar agor rhwng 4.30pm a 10.30pm yn ddyddiol.

    0300 304 7000

    www.sane.org.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?