Oedolion

Oedolion

​Enillydd cystadleuaeth yn gweld ei gymeriad yn dod yn fyw ar Deian a Loli

Nid yn aml mae plentyn yn cael cyfle i weld cymeriad o'i ddychymyg yn dod yn fyw. Ond dyna'n union sydd wedi digwydd i un enillydd lwcus, wnaeth ddyfeisio cymeriad newydd ar gyfer un o gyfresi plant mwyaf poblogaidd Cyw, Deian a Loli.

Roedd y gystadleuaeth yn annog gwylwyr Cyw i ddyfeisio cymeriad fyddai'n ymddangos mewn rhaglen o'r gyfres newydd sy'n dechrau ddydd Mercher, 25 Hydref ar S4C. Cafwyd llwyth o geisiadau, ond dim ond un enillydd – sef Gwern Elis o Landwrog a'i gymeriad, Llŷr y Lleidr Llyfrau Bach.

Mae Gwern yn ddisgybl blwyddyn 5 yn Ysgol Llandwrog, a chafodd dipyn o sioc ei fod wedi ennill y gystadleuaeth. Meddai, "Roedd fy chwaer Leusa yn gwylio Cyw yn y lolfa, a dyma hi'n gweiddi ar Mam a fi felly fe wnaethom redeg draw a gweld fy mod wedi ennill y gystadleuaeth. Roeddwn i wedi cael sioc felly wnaeth Mam rewindio'r rhaglen er mwyn gweld yr holl beth eto'n iawn! Ro'n i'n teimlo'n gyffrous iawn pan wnes i glywed fy mod i wedi ennill."

Cafodd Gwern ei ysbrydoli i greu Llŷr y Lleidr Llyfrau Bach ar ôl cael stori yn yr ysgol am leidr llaeth. Roedd yn hoffi'r syniad o enw cymeriad yn cyflythrennu, a gan fod Gwern yn hoffi darllen a mynd i'r llyfrgell roedd 'lleidr llyfrau' yn ffitio i'r dim!

Ar ôl dewis enillydd, aeth y cwmni cynhyrchu ati i ddod â'r cymeriad yn fyw a chreu sgript ar gyfer y rhaglen. Fel rhan o'r wobr, cafodd Gwern gyfle i fynd ar set i gyfarfod Deian a Loli, ac wrth gwrs i gyfarfod ei gymeriad, Llŷr y Lleidr Llyfrau Bach.

Dywedodd Gwern, "Roedd o'n brofiad grêt cael mynd ar set Deian a Loli - ges i ginio gyda'r actorion a'r criw, a gwneud y clapper-board ar set! Mi oedd Llŷr y Lleidr Llyfrau Bach yn debyg iawn i'r hyn wnes i ddychmygu… roedd y cwmni wedi mynd i drafferth fawr ac roedd y got yn union yr un peth â fy llun i - gyda'r marciau a phatshys a phob dim!"

Bydd dangosiad o'r bennod arbennig, Deian a Loli a'r Llyfrgell, ynghyd â phennod arall o'r gyfres, Deian a Loli a'r Cwmwl Coll, yn cael ei gynnal yn Pontio, Bangor ar ddydd Iau, 19 Hydref.

Fe wnaeth y tocynnau i'r ddau ddangosiad werthu o fewn ychydig oriau, felly penderfynwyd cynnal trydydd dangosiad, ac fe werthwyd pob tocyn i hwnnw hefyd o fewn dim; cyfanswm o 600 o docynnau. Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn un o'r dangosiadau gyda'r actorion Moi Hallam (Deian) a Erin Gwilym (Loli), gyda'r cyfarwyddwr Martin Thomas yn eu holi.

Yn gynharach ym mis Hydref, enillodd y gyfres Deian a Loli wobr BAFTA Cymru yn y categori Rhaglen Blant, a gall gwylwyr ifanc S4C wylio'r gyfres newydd ar deledu ac ar wefan Cyw.

Deian a Loli

Dydd Mercher 25 Hydref 7.00, S4C

Isdeitlau Saesneg

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C