Ffermio

Ffermio

Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar

Cyfle i gydweithio a datblygu sgiliau gyda thîm Ffermio S4C

Mae Gwobr Goffa arbennig wedi ei lansio gan S4C a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru er cof am y ffermwr a'r cyflwynydd adnabyddus, Dai Jones Llanilar. 

Bydd Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar yn rhoi cyfle i berson ifanc i weithio â’r cwmnïau  cynhyrchu aml-gyfrwng Telesgop (Ffermio) a Slam (Cefn Gwlad/Y Sioe) i ddatblygu syniad gwreiddiol i fod yn eitem gyflawn, a fydd wedyn yn cael ei darlledu ar blatfformau S4C.

I gystadlu am y Wobr, mae gofyn i unigolion o dan 30 oed gyflwyno syniad yn ymwneud â chefn gwlad neu amaethyddiaeth i gwmni Telesgop cyn 1 Hydref eleni.  Gofynnir hefyd iddyn nhw sgwennu ychydig am eu hunain a pham eu bod yn credu mai nhw ddylai dderbyn y wobr.

Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu syniadau i banel fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, tîm rhaglenni Ffermio a Chefn Gwlad, ac S4C.

Bydd yr enillydd yn cael eu cyhoeddi yn y Ffair Aeaf  – 24ain a’r 25ain o Dachwedd eleni, yn Llanelwedd.

Er mwyn cyfle i ennill y wobr, cyflwynwch gais ddim mwy nag un tudalen A4 yn nodi eich syniad chi am eitem yn ymwneud â chefn gwlad ac amaethyddiaeth, ac anfonwch drwy ebost at: gwawr.lewis@telesgop.cymru erbyn 23:59 ar 1af o Hydref 2025.

Telerau ac Amodau: Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar

22 Gorffennaf 2025

1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Telesgop (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmnïau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

2. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 17 oed neu'n hŷn hyd at 30 oed i ymgeisio a rhaid iddynt gadarnhau eu bod yn bodloni'r gofynion oedran wrth ymgeisio. Ceidw'r Cwmni ac S4C yr hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd.

3. I gystadlu, rhaid cyflwyno cais drwy ebost erbyn 23:59 ar y 1af o Hydref 2025.  Ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir ar ôl y cyfnod hwn yn cael eu hystyried.

4. Dewis enillydd: Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan banel o gynrychiolwyr S4C a’r Cwmni. Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu drwy e-bost o fewn 7 diwrnod i’r dyddiad cau.

5.  Hawlio'r wobr: Rhaid i'r enillydd gadarnhau ei fod yn hapus i dderbyn y wobr o fewn 14 diwrnod o gael ei hysbysu. Gall methiant i wneud hynny arwain at fforffedu’r wobr, ac mae’n bosibl y bydd enillydd arall yn cael ei ddewis.

6. Trosgwlyddo’r wobr: Ni ellir trosglwyddo’r wobr neu gael arian yn gyfnewid am y wobr hon.

6. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.

7. Bydd y Cwmni yn cadw data personol cystadleuwyr am hyd at 12 mis ar ôl diwedd y tymor diweddaraf er mwyn gweinyddu'r gystadleuaeth a delio gydag unrhyw gwestiynau. Gall chwaraewyr ddileu eu data personol ar unrhyw adeg drwy wneud cais i S4C. Mae hyn yn unol â rheoliadau GDPR.

8. Bydd unrhyw ddata personol a gasglir fel rhan o’r gystadleuaeth hon yn cael eu defnyddio at ddibenion cynnal y gystadleuaeth yn unol â'n polisi preifatrwydd yn unig.   

Bydd y Cwmni yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â'r polisi preifatrwydd sydd wedi'i gyhoeddi ar https://www.telesgop.co.uk/cy/privacy-policy/. Bydd S4C yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â'r polisi sydd wedi'i gyhoeddi ar https://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/polisi-preifatrwydd.

9. Ceidw’r Cwmni a/neu S4C yr hawl i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddynt sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.

10. Ni fydd y Cwmni nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan yr ymgeiswyr.

11. Ceidw’r Cwmni a/neu S4C yr hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth, neu er mwyn sicrhau bod y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn unol â'r deddfau a chanllawiau perthnasol.

12. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

13. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r gystadleuaeth at: gwawr.lewis@telesgop.cymru neu Gwifren Gwylwyr S4C: 0370 600 414.

14. Bydd cytundeb safonol yn cael ei ddanfon at yr enillydd i’w arwyddo cyn i’r enillydd gychwyn gwaith ar ei gyfraniad i’r Rhaglen. Mae’n rhag-amod i’r cystadlu a chymryd rhan yn y Rhaglen bod pob cystadleuydd yn arwyddo’r cytundeb safonol a’i ddanfon yn ôl at y Cwmni ar neu cyn y dyddiad a hysbysir gan y Cwmni.  Mae’r Cwmni'n cadw’r hawl i wahardd unrhyw gystadleuydd rhag cymryd rhan yn y Rhaglen os yw’r dogfennau cytundebol perthnasol heb eu harwyddo erbyn y dyddiad penodedig.

15. Bydd gofyn i’r ennillydd gydnabod a chytuno mai S4C bydd berchen ar gyfraniad yr ennillydd yn llwyr ac i roi’n ddiamod ac yn ddi-alw’n ol pob caniatad a chydsyniad (boed o dan y Ddeddf Hawlfraint Dyluniadau a Phatentau 1988 neu fel arall) sydd eu hangen ar S4C er mwyn defnyddio ac ymelwa ar gyfraniad yr ennillydd drwy unrhyw ddull a modd.

16.  Bydd angen i ymgeiswyr fod yn breswylwyr y DU.

 

Yn unol a’r telerau uchod, mae telerau ac amodau llawn S4C yn berthnasol i’r gystadleuaeth hon. I weld y telerau ac amodau llawn,ewch i:

https://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/57281/telerau-ac-amodau-cystadleuaeth/

Trwy dderbyn telerau'r gystadleuaeth hon, mae pob cystadleuydd yn cytuno y gall y Cwmni ac S4C ddefnyddio enw a llun proffil yr enillydd at ddibenion hyrwyddo'r gystadleuaeth mewn unrhyw gyfrwng. Mae’n bosibl y bydd y Cwmni ac S4C gysylltu â enillwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau hyrwyddo a marchnata.