S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rysait Cyri Hydrefol

  • 2 Llwy fwrdd o bast cyri
  • Llaeth cnau coco
  • Nionyn
  • Garlleg
  • Sgwash
  • Cêl

Cynhwysion Y Salad

  • 5-6 Moron
  • 1/2 Llwy de o halen
  • 1-2 Llwy fwrdd o olew olewydd
  • 1 Llwy fwrdd o hadau mwstard
  • 1 Llwy fwrdd o sudd lemwn

Ar gyfer y cyri

  1. Pliciwch y sgwash a'i dorri yn ddarnau
  2. Ychwanegwch y past cyri, nionyn a'r garlleg i'r badell a'u coginio ar dymheredd isel am 3 munud
  3. Ychwanegwch y llaeth cnau coco a'i gymysgu
  4. Ychwanegwch y sgwash a'i orchuddio gan droi y gwres i lawr. Coginiwch am 10 munud.
  5. Ychwanegwch y cêl a'i adael i wywo am 5 munud

Ar gyfer y salad

  1. Rhowch y moron wedi gratio mewn powlen cyn ychwanegu halen
  2. Rhowch olew mewn padell boeth ac ychwanegu'r hadau mwstard
  3. Pan mae'r hadau yn popio, ychwanegwch nhw at y moron
  4. Rhowch sudd lemwn dros y cwbwl a'i gymysgu
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?