Dull
- Golchwch y nionod ffres a thorrwch y gwreiddiau i ffwrdd.
- Berwch yn gyflym am gwpwl o funudau.
- Ychwanegwch gnau cyll i badell gynnes i'w brownio. Tynnwch o'r badell.
- Sychwch y nionod a'u coginio yn y badell am gwpwl o funudau.
- Torrwch y cnau yn fân a'u gwasgaru dros blât gyda'r nionod.
- Gwnewch ddresin syml i'w wasgaru dros y cwbl gydag olew olewydd, mêl, sudd leim, halen a phupur.
- Rhowch ychydig o'r croen leim ar ei ben gyda naddion chilli.