Trosedd

Trosedd

  • Neil Foden

    27 Ionawr 2026

    FODEN: O Brifathro i Bidoffeil

    Rhaglen am yr ymchwiliad newyddiadurol hir ar Neil Foden - a gadwodd swydd bwerus tra'n cyflawni gweithredoedd erchyll. 

  • Con Jones yn ifanc mewn crys llaes lliw ysgafn

    1 + 2 Ionawr 2025

    Con Jones: Twyllwr Gorau’r Byd

    Kenner Elias Jones - “y twyllwr gorau y cwrddais ag ef erioed,” yn ôl swyddog mewnfudo UDA - wedi treulio pum degawd yn twyllo ar draws cyfandiroedd, gan adael twyll ar ei ôl. Wedi ei allgludo, wedi cael ei wahardd, a sawl gwlad yn ceisio cael gafael arno, mae'n llithro trwy'r bylchau gyda dogfennau ffug. Heddiw, mae'n dal i fod ar y rhydd - ac rydym yn gwybod yn union ble i ddod o hyd iddo. Yn y gyfres fer hon ar gyfer S4C, rydym yn datgelu popeth. 

  • Curo Tu ôl i’r Drws

    11 Tachwedd 2025

    Curo Tu ôl i’r Drws

    Trwy lygaid rhai o’r heddweision sy’n gweithio ym maes cam drin domestig Heddlu Dyfed Powys, bydd y rhaglen ddogfen ddadlennol hon yn adrodd straeon dioddefwyr cam-drin domestig a’r gwaith sy’n cael ei wneud gan yr heddlu i ymchwilio i bob trosedd. 

  • Ymgyrch Seal Bay: Pennod 2

    5 Tachwedd 2025

    Ymgyrch Seal Bay: Pennod 2

    Gyda chymorth gwybodaeth gan y bobl leol, mae'r ditectifs o Orllewin Cymru yn dechrau cau o amgylch y gang smyglo. Mae arestio deliwr cocên oedd yn gyrru Rolls Royce yn arwain heddlu Sir Benfro ar antur sy'n datgelu tai crand gyda thrysor cudd a chwch moethus sydd â hanes lliwgar, gan eu helpu i ddarganfod mwy o gliwiau yn Llundain, Libanus a Sbaen. Ond darganfyddiad yn ôl yng Nghymru sydd yn agor yr achos led y pen: arestio dyn lleol sy'n datgelu trysor o gyfrinachau. 

  • Ymgyrch Seal Bay: Pennod 1

    4 Tachwedd 2025

    Ymgyrch Seal Bay: Pennod 1

    Stori'r bobl leol wnaeth rwystro cynllwyn smyglo cyffuriau enfawr yn Nhrefdraeth ym 1983.

    Yn y bennod gyntaf hon mae ffermwyr a physgotwyr lleol Trefdraeth yn gwneud cyfres o ddarganfyddiadau rhyfedd. Mae dynion wedi'u gwisgo'n rhyfedd i’w gweld yn cerdded dros dir fferm preifat ar ben clogwyn. Mae offer morol drud wedi'u canfod mewn cildraeth sydd ond yn gallu cael eu cyrraedd gan longau. A thwll cudd I lawr drwy’r ddaear ar draeth ddiarffordd arall, sydd yn arwain at siambr ryfedd, danddaearol. Pwy sydd wedi'i adeiladu? A pham?  

  • Pwy Laddodd Hilda Murrell?

    28 + 29 Hydref 2025

    Pwy Laddodd Hilda Murrell?

    A documentary series looking at the murder of peace campaigner and famous rose breeder Hilda Murrell, aged 78, in Shrewsbury in 1984. We get a glimpse of the shortcomings of the police investigation and the conspiracy theories. Was there a connection with the secret services and did the correct murderer get caught? 

  • Ruth Ellis: Y Cariad a'r Crogi

    21 Hydref 2025

    Ruth Ellis: Y Cariad a'r Crogi

    Y Gymraes Ruth Ellis oedd y fenyw olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain. Wedi’i geni yn Rhyl, mae’r rhaglen ddogfen hon yn olrhain ei bywyd - o’i phlentyndod a’r sîn glwbiau yn y 1950au i’w pherthynas stormus â David Blakely a’r llofruddiaeth wnaeth ysgwyd Cymru a Lloegr. 

    Gyda chyfweliadau newydd ac ymchwil ffres, mae’r rhaglen yn cynnig golwg emosiynol ar stori Ruth a’r effaith gafodd ei throsedd ar gymdeithas a’r gyfraith.