

Mae S4C Miwsig yn chwilio am unigolion brwdfrydig i gyfarwyddo fideos cerddoriaeth. Mae yna 10 fideo ar gael, ac yr ydym yn awyddus i glywed oddi wrth ystod eang o bobl ac yn croesawu amrywiaeth o genres a chyfryngau. Llenwch y ffurflen gais yn mynegi eich diddordeb a chroeso i chi ychwanegu CV neu unrhyw enghreifftiau o’ch gwaith. Tydi profiad yn y maes ddim yn hanfodol ond mae brwdfrydedd at gerddoriaeth Gymraeg yn angenrheidiol!
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob sector o’r gymuned. Bydd Boom Cymru yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â pholisi preifatrwydd Boom Cymru sydd ar gael ar ein gwefan.
Dyddiad Cau: 18.02.26