Cadw'n ddiogel ar lein, fel hyn:
Paid â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol fel dy enw llawn, lle rwyt ti'n byw, neu lle rwyt ti'n mynd i'r ysgol, na derbyn negeseuon na cheisiadau gan bobl nad wyt ti'n eu 'nabod. Mae'n well defnyddio dy enw cyntaf yn unig. Paid â rhannu dy rif mobeil gydag unrhyw un dwyt ti ddim yn eu 'nabod mewn bywyd 'go iawn'.
Os oes unrhyw un yn holi rhywbeth i ti sy'n dy wneud yn anghysurus, neu yn gofyn i ti anfon lluniau atyn nhw, ac mae hynny yn dy boeni neu yn dy ypsetio di, mae'n bwysig i ddweud wrth oedolyn rwyt ti'n ei drystio. Dydy beth bynnag sydd wedi digwydd ddim yn fai arnat ti.
Gall byrddau negeseuon a 'chat rooms' fod yn hwyl, ond dydy'r ffaith fod rhywun yn ymddangos yn garedig ar-lein ddim yn golygu ei bod yn garedig mewn bywyd 'go iawn'. Mae'n hawdd i bobl esgus eu bod yn union fel ti, a dweud eu bod yn hoffi'r un pethau â ti, ond 'dwyt ti ddim yn eu 'nabod yn iawn. Felly, paid byth a chwrdd â neb rwyt ti wedi cwrdd arlein, hyd yn oed os wyt ti'n meddwl dy fod ti yn eu 'nabod nhw, a'u bod yn swnio'n garedig. Os wyt ti'n benderfynol o gyfarfod â rhywun, mae'n rhaid i ti ddweud wrth oedolyn rwyt ti'n ei drystio a holi iddyn nhw ddod gyda ti.
Os oes unrhyw un yn dweud pethau cas amdanat ti ar-lein neu mewn tecst, mae hynny'n cael ei alw yn fwlio. Rhaid i ti ddweud wrth oedolyn rwyt ti'n ei drystio, a phaid ag ymateb i'r sylwadau chwaith, achos dyna mae'r bwli eisiau i ti ei wneud.
Os wyt ti'n derbyn tecst gan rywun dwyt ti ddim yn 'nabod, mae'n saffach i ti ddileu y tects yna er dy fod ti falle yn awyddus i wybod beth yw e. Falle bod lluniau o fewn y decst gall dy ypsetio di, neu falle bod y tecst yn cynnwys feirws gall achosi niwed i dy ffôn.
Gwna yn siŵr dy fod ti wastad yn dweud wrth oedolyn rwyt ti'n ei drystio am unrhyw beth sy'n gwneud i ti deimlo'n anghyfforddus, neu yn dy boeni ar-lein. Mae gan rhai gwefannau fotwm rhybudd (alert), neu gyfeiriad e-bost er mwyn i ti allu dweud fod rhywbeth yn dy boeni. Paid â bod ofn siarad gydag oedolyn os wyt ti'n teimlo fel ymateb i bethau fel hyn. Yn yr achos yma, mae'n saffach i ddiffodd a gadael y wefan.
Cysylltu/Cwyno
- Os wyt ti'n poeni am, neu yn anghyfforddus gydag unrhyw gynnwys Boom Plant rwyt ti wedi ei weld neu ei glywed ar unrhyw lwyfan, galli di gysylltu gyda cynnwysplant@boomcymru.co.uk, a bydd un o'r tîm Cynhyrchu yn cysylltu yn ôl mor fuan â phosibl