Stwnsh

Stwnsh

Gyda afonydd, y môr a bryniau o'u cwmpas, bydd sgiliau'r tîm o Fro Teifi yn dod â nhw adref yn saff? Dere i gwrdd â'r pedwar dewr...

ETHAN

Disgrifia dy hun mewn tri gair…

"Siaradus, Galluog a hapus"

Diddordebau...

"Pêl droed, Rygbi a Maths"

Rhinweddau fydd yn helpu'r tîm…

"Rwy'n dda yn rhedeg ac os oes sialens rhifau, rwy'n hyderus yn datrys problemau mathemateg."

GWYDION

Disgrifia dy hun mewn tri gair…

"Jocar, Siaradus a Chyflym"

Diddordebau…

"Sgio, Gwaith Coed, Pêl-droed"

Rhinweddau fydd yn helpu'r tîm…

"Rwy'n joio bod mas yn yr awyr agored a chreu pethau mas o goed."

LLŶR

Disgrifia dy hun mewn tri gair…

"Swnllyd, doniol a hyderus"

Diddordebau…

"Pêl-droed a rygbi"

Rhinweddau fydd yn helpu'r tîm…

"Rwy'n dda yn cyfathrebu ac yn dda am ddatrys problemau."

SETH

Disgrifia dy hun mewn tri gair…

"Egniol, doniol a siaradus"

Diddordebau…

"Dartiau, Rygbi, Pel droed a Rhedeg"

Rhinweddau fydd yn helpu'r tîm…

"Rwy wastod yn canolbwyntio ar y pethau sydd o gwmpas ac mae gen i lot o stamina."

  • Bocs Set Gwrach y Rhibyn

    Bocs Set Gwrach y Rhibyn

    Gwylia pob pennod draw ar Clic

  • Gwent Is Coed

    Pwy 'di pwy yn y tîm glas?

  • Glan y Môr

    Y tîm o Bwllheli - bydd eu sgiliau dŵr ddigon da i oroesi?

  • Maes Garmon

    Pwy 'di pwy yn y tîm coch?

  • Gwrach y Rhibyn

    Mae Gwrach y Rhibyn 'nôl, a phedwar tîm newydd ar goll yn rhywle yn y gwyllt

    BOCS SET ar S4C Clic