S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Brownies Siocled

Y pwdin gorau erioed, ond a fydd Ows a Leah yn gallu llwyddo i wneud brownies blasus?

BROWNIES

Cynhwysion

Ar gyfer y Brownies

165g siocled tywyll 70%

165g menyn heb halen

330g siwgr mân caster

3 wy mawr

45g powdwr coco

120g blawd plaen

1/2 llwy de o bowdr pobi

1/2 llwy de o halen

Ar gyfer y Peanut Butter Cookie Dough

85g menyn heb halen, meddal

150g siwgr meddal brown golau

15g siwgr demerara

3 llwy fwrdd o iogwrt

210g menyn cnau daear llyfn (smooth peanut butter)

150g blawd plaen

3/4 llwy de o halen

50g dranau man o siocled llaeth

Ar gyfer y Ganache

150g siocled tywyll 70%

150 hufen dwbl

DULL

  1. Meddalwch y siocled a'r menyn mewn powlen
  2. Gadewch i'r siocled/menyn i oeri.
  3. Wisgiwch yr wyau ac yna ychwanegwch y siwgr caster mewn powlen arall - wisgiwch am tua 5 munud tan yn fwy trwchus.
  4. Ychwanegwch y cynhwysion sych i'r gymysgedd wyau
  5. Ychwanegwch y gymysgedd siocled at y gymysgedd arall.
  6. Lledaenwch mewn i tin 10 modfedd. Pobwch ar 160◦c am 20-22 munud.

DULL Cookie Dough

  1. Cymysgwch menyn, siwgr meddal brown a'r siwgr demerara yn y cymysgydd. Ychwanegwch yr iogwrt a'r cnau daear llyfn.
  2. Ychwanegwch y cynhwysion sych.
  3. Ychwanegwch y darnau siocled (Choc chips) a'r halen.
  4. Lledaenwch ar ben y brownies tan yn llyfn.

DULL Ganache

  1. Meddalwch y siocled gyda'r hufen. Gadewch i oeri am gwpwl o funudau.
  2. Ychwanegwch at y gymysgedd brownie.
  3. Rhowch Siocledi Peanut Butter ar dop y brownies fel addurniad
  4. Rhowch yn yr oergell am tua 2 awr i galedu
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?