S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Bisgedi Pasg

Pasg hapus! Bisgedi prydferth i ddathlu, ond pwy fydd yn creu'r rhai gorau?

BISGEDI PASG

CYNHWYSION

150g blawd plaen

75g siwgr caster

75g menyn gyda ychydig o halen, wedi ei dorri

1 ŵy mawr

1 tsp fanila essence neu pâst fanila

AR GYFER YR EISIN

250g siwgr eisin

Cymysgedd o gels lliwio bwyd – eich lliwiau gorau chi!

AR GYFER CREU CANOL GYDA JAM

Siwgr eisin i ddwstio

200g jam bricyll neu lemon curd

DULL

CAM 1

Rhowch y blawd a'r siwgr mewn bowlen a rhwbiwch y menyn i mewn gyda'ch dwylo nes bod y gymysgedd yn edrych fel tywod, gyda dim lympiau o fenyn. Curwch yr ŵy a'r fanila gyda'i gilydd yna ychwanegwch at y gymysgedd arall. Cymysgwch gyda chyllell i gyfuno popeth yn fras, yna defnyddiwch eich dwylo i dylino'r toes gyda'i gilydd – ceisiwch beidio gor weithio'r toes, neu fydd y bisgedi yn galed! Siapiwch mewn i dddisgen, yna gorchuddiwch y bowlen a'i adael i oeri am 15 munud. Cynheswch y popty i 180C/160C fan/gas. Rhowch bapur pobi ar hambwrdd pobi.

STEP 2

Rhowch ychydig o flawd ar y cownter. Hannerwch y toes, rholiwch un hanner allan nes ei fod mor drwchus a cheiniog £1. Defnyddiwch torrwr bisged siap ŵy (neu gwnewch dempled gyda cardfwrdd) er mwyn torri gymaint o fisgedi ac y gallwch chi. Rhowch rhain ar yr hambwrdd pobi gan adael ychydig o le rhwng pob bisged.

Gwnewch y cam yma eto gyda hanner arall y toes, ond er mwyn gwneud bisgedi jam, gwnewch bant yn y toes gyda'ch bawd.

CAM 3

Pobwch y bisgedi am 12-15 munud nes fod y bisgedi yn euraidd. Gadewch iddynt oeri am 10 munud yna addurnwch fel fynnwch chi gyda'r gels bwyd lliw.

CAM 4

Er mwyn addurno, ychwanegwch digon o ddŵr i'r siwgr eisin er mwyn ei wneud yn dew. Rhowch hanner yr eisin mewn bag peipio gyda twll bach iawn ar y pen, defnyddiwch hwn i wneud amlinelliad rownd y bisged neu unrhyw ddyluniad hoffwch chi! Gadewch i galedu am 10 munud.

CAM 5

Er mwyn gwneud y bisgedi jam, rhydyllwch digonedd o siwgr eisin dros y bisgedi, (nes ei fod yn wyn fel ŵy go iawn). Rhowch ddigon o jam yn y twll.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?