
CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN – CYFLE I ENNILL CIT WEDI’I WNEUD YN ARBENNIG I DY DÎM PÊL DROED, TALEB SPORTS DIRECT GWERTH £50 A SESIWN HYFFORDDI GYDA CHYFLWYNWYDD TEKKERS!
I ymuno, rhaid i ti ddarparu dy enw, cyfeiriad e-bost, oedran a rhif ffôn trwy wefan STWNSH SADWRN, ffonio 08000 727877, neu anfona neges destun gyda'r gair SADWRN a dy enw i 80800.
Mae'r gystadleuaeth yn cau am 12:00yp ddydd Iau 5 Tachwedd 2026.
Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
Dewisir yr enillydd ar hap o blith yr holl geisiadau a dderbyniwyd cyn y dyddiad a'r amser cau.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu iau ar adeg ymuno - pob lwc!
CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN – CYFLE I ENNILL CIT WEDI’I WNEUD YN ARBENNIG I DY DÎM PÊL DROED, TALEB SPORTS DIRECT GWERTH £50 A SESIWN HYFFORDDI GYDA CHYFLWYNWYDD TEKKERS
I ymuno, rhaid i ti ddarparu dy enw, cyfeiriad e-bost, oedran a rhif ffôn trwy wefan STWNSH SADWRN, ffonio 08000 727877, neu anfona neges destun gyda'r gair SADWRN a dy enw i 80800.
Mae'r gystadleuaeth yn cau am 12:00yp ddydd Iau 5 Tachwedd 2026.
Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
Dewisir yr enillydd ar hap o blith yr holl geisiadau a dderbyniwyd cyn y dyddiad a'r amser cau.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu iau ar adeg ymuno.
Cyhoeddir yr enillydd ar STWNSH SADWRN ddydd Sadwrn 7 Tachwedd 2026. Bydd Boom Cymru yn cysylltu â'r enillydd gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarparwyd ar ôl y dyddiad cau.
Gwobr
Mae'r wobr yn cynnwys:
• Cit wedi'i wneud yn arbennig ar gyfer tîm pêl droed yr enillydd
• Taleb Sports Direct bersonol gwerth £50
• Sesiwn hyfforddi pêl-droed gyda chyflwynydd Tekkers.
Cit Bêl-droed
Bydd y wisg bêl-droed werth lan i £350 a chaiff ei chynhyrchu ar gyfer hyd at 13 o blant.
Bydd logo STWNSH SADWRN yn cael ei arddangos yng nghanol y crys a bathodyn y clwb pêl-droed ar ochr dde'r frest.
Cytunir ar feintiau'r wisg, lliwiau, enwau'r chwaraewyr a rhifau'r garfan gyda'r enillydd cyn gosod yr archeb.
Taleb Sports Direct
Caiff y daleb Sports Direct gwerth £50 ei phrynu ar ôl cadarnhau'r enillydd a'i darparu fel taleb electronig trwy e-bost.
Sesiwn Hyfforddi
Caiff y sesiwn hyfforddi ei chynnal gan Huw Owen neu Lloyd Lewis.
Trefnir dyddiad, amser a lleoliad y sesiwn ar ôl cadarnhau'r enillydd.
Caiff y sesiwn hyfforddi ei ffilmio gan dîm cynhyrchu STWNSH SADWRN ac efallai y caiff ei ddarlledu ar y teledu ac ar blatfformau eraill S4C. Mi fydd y tim cynhyrchu yn sichrau fod gan bob plentyn yr hawl i fod ar gamera cyn ffilmio.
Termau Cyffredinol
Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall Boom Cymru / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.
Ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid am y talebau.
Ni fydd Boom Cymru ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon e-bost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.
Os na fydd modd i Boom Cymru ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru / S4C i wneud hynny, bydd gan Boom Cymru / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.
Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.
Ar wahân at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.
Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10, 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.
Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb ar wahân i staff S4C, staff cwmni Boom Cymru TV Cyf., aelodau agos o'u teuluoedd a chwmnïoedd sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.