Stwnsh Sadwrn

Stwnsh Sadwrn

Cystadleuaeth Gwersyll yr Urdd, Llangrannog

CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN CYFLE I ENNILL – Penwythnos yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog!

 

I gystadlu, rhaid:

 

Rhoi dy enw, cyfeiriad e-bost, dy oedran a rhif ffôn ar wefan STWNSH SADWRN, neu tecstia SADWRN gyda dy enw i 80800.

 

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12:00 ar ddydd Iau, 4ydd o Fehefin 2026 - Pob lwc!


CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN CYFLE I ENNILL – Penwythnos yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.

 

I gystadlu, rhaid:

 

Rhoi dy enw, cyfeiriad e-bost, dy oedran a rhif ffôn ar wefan STWNSH SADWRN, neu tecstia SADWRN gyda dy enw i 80800.

 

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12:00 ar ddydd Iau, 4ydd o Fehefin 2026.

 

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

 

Dewisir un enillydd ar hap o blith yr enwau sydd wedi cystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau. Bydd penderfyniad Boom Cymru / S4C ynghylch yr enillydd yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

 

CYNNWS Y WOBR: Penwythnos yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog. Bydd cyfle i deulu o ddau oedolyn a hyd at ddau blentyn aros am ddwy noson yn y gwersyll rhwng y 24ain o Orffennaf a 26ain o Orffennaf 2026. Mi fydd 4 pryd y dydd ar gael yn cynnwys brecwast, cinio, te a swper. Dros y penwythnos bydd cyfle i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau gwahanol yn amrywio o farchogaeth i drampolinio gyda chyfle hefyd i fwynhau golygfeydd godidog bae Ceredigion.

 

Cyfeiriad:

Gwersyll yr Urdd Llangrannog,

SA44 6AE.

 

Mae'n rhaid bod yn 16 oed neu iau i gystadlu.

 

Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar rhaglen STWNSH SADWRN, dydd Sadwrn y 6ed o Fehefin 2026. Bydd Boom Cymru yn cysylltu drwy ffonio'r enillydd ar ôl y dyddiad cau.  

 

Mae’n rhaid i’r enillydd fod ar gael i fynychu’r penwythnos cyfan rhwng y 24ain o Orffenaf hyd at y 26ain o Orffennaf.

 

Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall Boom Cymru / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.

 

Ni i fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid am y wobr.

 

Ni fydd Boom Cymru ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon e-bost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

 

Os na fydd modd i Boom Cymru ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru / S4C i wneud hynny, bydd gan Boom Cymru / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.

 

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

 

Ar wahân at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.

 

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

 

Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10, 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

 

Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb ar wahân i staff S4C, staff cwmni Boom Cymru TV Cyf., aelodau agos o'u teuluoedd a chwmnïoedd sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.